Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lygaid

lygaid

A golau cochlyd y wawr yn sgleinio ar ei wyneb ac adlewyrchiad y goleuadau blaen yn disgleirio'n wyn yn ei lygaid ymddangosai fel y diafol ei hun, meddyliodd Gareth.

Nid oedd yn rhaid i'w lygaid duon ei hanwesu ac i'w gyhyrau wingo dan ei groen tywyll pan fyddai'n rhwydo na theimlai hi ei gwaed yn byrlymu yn ei gwythiennau a'i chalon yn chwyddo.

Roedd o gyn hardded â neb yn yr ardal a'i lygaid treiddfar.

Yma yn ei chartref rhwth nid yw 'fy nghariad' yn ddim byd bellach ond 'rhyw-ers-talwm-lygaid/yn pwyo'r distawrwydd rhwng cledrau fy nwylo'.

Roedd hi'n amlwg ei fod yn swil iawn a phrin y codai ei lygaid i edrych ar Anna.

Bydd y ganolfan yn wledd i lygaid y cyhoedd ond bydd hefyd yn ganolfan o bwys i ymchwil ac addysg wyddonol.

'Roedd yn ddarlun o dristwch; ei gnawd yn oer, ei geg yn glafoeri, a'i lygaid mor bwl ddifywyd â llygad pysgodyn marw.

Disgynnodd ei lygaid brown mawr arnaf A gwenodd.

'Dim ond un, am wn i,' atebodd ei frawd ac ychydig o ofn yn ei lygaid.

Gan gadw'i lygaid ar y ffordd o'i flaen, estynnodd am y ffôn.

Safodd ac edrych i lawr ar y bechgyn, ei lygaid glas yn oer a chaled a'i wefusau'n dynn.

Yn awr, cafodd ennyd o'i weld trwy ei lygaid beirniadol ef, ac ymddangosai mor ddi-raen ag adeilad yn ardal y slymiau.

"Rydw inna' wedi gneud imi edrych arno fo drwy lygaid artist, a rydw i'n gweld yr hen le o'r newydd."

Ac 'rwy'n methu'n lân a'i berswadio i gau ei lygaid a chysgu .

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

'Be wnawn ni â nhw?' holodd Bleddyn, ei lygaid yn fawr gan ofn.

'Roedd ei lygaid wedi culhau, ei wefusau'n dynn.

Tra bwyf fe gofiaf wyneb gwelw HR a'r olwg freuddwydiol a fyddai yn ei lygaid fel pe bai'n gweld ymhell, gweld ei Gymru rydd ddelfrydol, tu hwnt i ffiniau ei oes ei hun.

Ymlwybrai ei phartner ar ei hôl, ffermwr cefnog o ochr y Bala, yntau'n goch ei wyneb a choch ei lygaid.

Un o nodweddion John Griffith fel gohebydd oedd ei awydd i fynd i lefydd drosto'i hun i weld â'i lygaid ei hun.

Dechreuai'r stori gyda golwg pell yn ei lygaid.

Gallai rhywun fod wedi maddau ei hun agwedd sarhaus pe na byddai'r creulondeb hwnnw yn ei lygaid.

Fe welwn yn glir yn fflachiadau cyhuddgar ei lygaid callestr, yn gymysg â'r hen herio, awgrym o barch gwyliadwrus.

Daeth o hyd i hwnnw ar ei liniau, a dywedodd wrth y morwr ifanc: "Os oes gen ti rywfaint o synnwyr ar adeg fel hyn, mi ei dithau ar dy liniau a gweddi%o." Caeodd Douglas ei lygaid a dweud ei bader yn dawel wrth nofio'n unig yng nghanol y môr mawr.

Nid oes posib clywed LIWSI o gwbl pan yw'n siarad ac nid yw GARI, sy'n gorwedd ar ei wely a'i lygaid ynghau, yn sylweddoli ei bod hi yno.) (Gwneud siâp ceg, yn gyflym) Helo Gorila.

lygaid am fod rhywbeth wedi tynnu'i sylw.

Llithrodd Geraint ei lygaid i lawr y wal honno, fesul carreg, nes gweld yn y gwaelod ...

Dyna'r ffordd orau i ddal cathod gan eu bod nhw mor hoff o browla yn y tywyllwch." Gwyddai pob un ohonynt fod Wyn wedi deffro o'r diwedd, a'i fod cystal â neb am ddefnyddio'i ddychymyg ar ôl iddo agor ei lygaid yn iawn.

Wrth ei godi'n ofalus roedden nhw'n synnu ac yn llawenhau pan riddfannodd y bugail a rhwbio ei lygaid.

Ni allai ddyfalu er ei fod wedi llygadu a llygadu'r lluniau lliw yn yr enseiclopidia nes roedd ei lygaid yn brifo.

Yr oedd y pryf yn y pren i'w weld yn eglur iawn i'r sawl a oedd yn berchen ar lygaid i ganfod yr effeithiau chwarter canrif yn ôl, cyn i'r Rhyfel dorri allan.

Clywai, er gwaethaf yr eginyn o hunanhyder a oedd yn bygwth blaguro'n betrus ynddo, yr angen am rywun yn gefn iddo yn ei ddiflastod ac i herio'r dagrau o rwystredigaeth a lletchwithdod rhag mentro ymhellach na'i lygaid.

Medrai eu harogli wrth iddo orwedd yn ôl ar y glaswellt a chau ei lygaid yn dynn.

Pan geisiai gau ei lygaid a chysgu, gwelai weledigaethau ofnadwy.

Mae'n rhaid bod y llythyr agored ar y bwrdd wedi dal ei lygaid.

Hanner caeodd y Cadfridog ei lygaid.

Culhaodd ei lygaid.

'Roedd yr arlliw o dynerwch wedi diflannu a rhyw galedwch rhyfedd yn ei lygaid.

Dechreuodd ei lygaid fflacho fel grisial, yn union fel y gwnaethon nhw yn yr ogof.

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

Llenwodd lygaid y gwrachod â dicter a chasineb wrth ddeall bod Delwyn wedi gweld drwy eu cynllwyn.

Caeodd ei lygaid yn dynn a cheisio meddwl am bethau eraill.

Syllodd y milwyr ar ei lygaid hanner agored ac ar y fwyall a gariai ar ei ysgwydd.

Roedd Grenville ar ben ei hun ym Mhorthmelgan ger Ty Ddewi - roedd o'n denau ac efo problemau ar ei lygaid.

Gwelodd Lisa, trwy ei lygaid ef, yr awyrgylch dlodaidd, y peiriannau llaw hynafol, ac amgylchiadau gwaith cyntefig y gweithwyr.

Breuddwyd cas, mae'n debyg.' Daeth golwg gythryblus i lygaid y ficer.

"Does dim digon o le i ni i gyd ar yr un beic, a rydym yn syrthio ar bennau'n gilydd byth a hefyd." Ar _l amser hir, dyma'r dyn trwsio sosbenni yn codi ei ben, yn agor ei lygaid ac yn dweud, "Wel, dyna ddynion bach od ydych chi.

Felly, edrychwch yn ofalus ar y gþr neu'r cariad y tro nesa y bydd yna ffilm go emosiynol ar y teledu, rhag ofn i chi ddigwydd ei ddal yn sychu'i lygaid yn slei back efo cefn ei law.

Ond heddiw, hyd yn oed â gwresogydd yn chwythu ac yn agored led y pen, doedd o ddim am gau ei lygaid.

Agorodd Ap Menai ei lygaid eto.

Dyna paham mai creadigaeth pechod a man geni heresi ydi pob tre.' Ni allai Ieuan Ddu lai na dyfalu be oedd gan hwn i'w wneud â llosgi eglwys Dolbenmaen, ond roedd ei lygaid yn goch gan flinder a'i goesau'n gwanio oddi tano.

Ymhen hir a hwyr fe gododd y capten ar ei draed: bu'n gweddio'n galed ac roedd ei lygaid yn goch.

Pan agorodd ei lygaid, cofiodd am Stan.

Hithau'n ei herio nad oedd o' ddigon o ddyn i dorri'n rhydd, ond wrth weld ei lygaid yn caledu, diarhebai ati ei hun yn ei annog.

Mae hon yn ddigon diniwad.' Gwyliodd Dan y lleill yn difodi'r deisen gwsberis gyda blas, a phan dorrai Emrys ail damaid iddo'i hun, ni allai ymlid yr olwg farus o'i lygaid.

Daethpwyd o hyd i'r perthynas a daeth allan yn edrych fel Kentucky Minstrel tu chwithig allan gan fod ei wyneb yn glaerwyn efo'r blawd ac o gwmpas ei lygaid a'i weásau yn ddu.

'Chwiliwch am y bwa.' Caeodd ei lygaid ac aeth yn anymwybodol eto.

Trwy'r smotiau gwyn o flaen ei lygaid, gwelai gar Davies a Rogerson o'i flaen, yn nes yn awr, a'r car arall ryw ugain llath o'u blaenau nhw.

Ni allai Ibn gredu'i lygaid, ond trwy rhyw ryfedd wyrth roedd wedi cadw'i arian yn ddiogel.

Caeodd ei lygaid a dodi'i ddwylaw dan ei ên: chwyddodd gwythi%en yn ei arlais a sylwodd y Rhaglaw ar y pentwr iach o gŵyr du yn ei glust chwith.

Mae gan bryfed, gwenyn a thrychfilod eraill lygaid cyfansawdd sydd a channoedd o lensiau bach bach.

Un sydd wedi gweld effeithiau creulondeb Saddam Husssein a'i filwyr â'i lygaid ei hun yw Cwrd ifanc - Kamarin - sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Ac wrth syllu i'w lygaid tadol, mi wyddwn ei fod yn dweud y gwir.

Rydw i'n ymddiheuro." Am eiliad, caledodd ei lygaid.

Mae gan bysgod sy'n byw ar wely'r mor lygaid sy'n agos at ei gilydd ar eu pennau fel y medrant weld beth sy'n digwydd uwch eu pennau.

Gwisgai arfwisg arianwen a thrwy'r hollt ym miswrn ei helmed uichel, llosgai pâr o lygaid oren.

Gwyddwn wrth edrych i'w lygaid nerfus-galed fod mwy na lled y dref yn ein gwahanu.

Cyn iddo agor ei lygaid, medrai Geraint glywed sŵn organ yn gymysg â lleisiau'n gwau drwy'i gilydd fel ieir.

Roedd y golau mor gryf nes bod Meic yn gorfod codi ei law i gysgodi'i lygaid, a dyna pryd y sylwodd ei fod yn gwisgo maneg ledr drom, fel dyrnfol marchog canoloesol.

Ond daliodd Dei ef fwy nag unwaith yn edrych arno o gongl ei lygaid.

Synnais o weld yr olwg filain yn ei lygaid.

Mae cyfresi megis Talwrn y Beirdd ac O Flaen Dy Lygaid yn ffefrynnau cyson.

Daeth gwên i'w Lygaid wrth gofio.

Safodd Gwyn gan agor ei geg a rhwbio ei lygaid yn flinedig.

" roedd lopez yn gwenu am y tro cyntaf, ond doedd ei lygaid ddim yn gadael wyneb y ferch am eiliad.

Yn lle hynny ni thynnodd ei lygaid oddi arni ac ni symudodd o'i hymyl.

Roedd y cwbl yn dechrau troi, y ddwy lygaid almond yn troi'n gynt ac yn gynt, gan ffurfio un trobwll diwaelod a sugnai Meic o'i gadair nes ei fod yn plymio, plymio ...

Yna gwelais fod y dyn yn y siaced law wedi dechrau crynu'n sydyn, roedd dagrau yn ei lygaid.

'Caledfwlch!' sibrydodd Bedwyr, a rhyfeddod yn ei lygaid.

A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.

Yn sydyn symudodd ei drwyn ac agorodd ei lygaid yn araf.

A dyma gyfle darllenwyr Mela i brofi bywyd yn LA drwy lygaid Mared.

Troes o'r bar ar ôl yr ymdrech dila honno i ddiwallu syched ei chymydog a chanfod un o griw bychan a safai yn ei hymyl yn codi'i lygaid mewn cyfarchiad wrth ei gweld.

Gallai weld adlewyrchiad cannoedd o lygaid yn ei ddilyn.

Gwyddai eu bod ar ddyfod wrth y cryd oer a âi drosto, ac wedi eu dyfod collai bob nerth a syllai arnynt â'i lygaid, fel aderyn wedi ei lygad-dynnu gan drem y sarff.

Y funud y gwelodd Idris, dyma'r cawr ar ei draed, yn rhuo fel tarw, yn chwifio'r ordd uwch ei ben, a'i lygaid yn melltennu.

Methai Geraint â chredu'i lygaid.

Daliodd Rod ei lygaid a wincio.

Nid yw'r rhain ymhlith y pethau y gall y gwyddonydd eu trin â'i fysedd, na'u gweld â'i lygaid.

Yn Seasons cafwyd synau pedwar tymor olaf y Mileniwm ar gof a chadw, gyda'r gwrandawyr yn profi gwanwyn, haf, hydref a gaeaf olaf y ganrif drwy lygaid pum person gwahanol iawn.

Mae o'n edrach i lawr arnon ni, blant y wyrcws." Ac roedd tân yn ei lygaid wrth ddweud hyn.

Y mae'r planedau pellaf, hyd yn oed, wedi gorfod ildio'u cyfrinachau i lygaid dyn.

A thra byddi di yn Llechfaen dros ddiwedd yr wsnos, cadw dy glustia a'th lygaid yn agored.

Chwiliodd â'i lygaid am ei wraig ymhlith y dawnswyr, ond doedd dim golwg am Meg yn un man.

Ai ei lygaid oedd wedi ei dwyllo?

Gogledd Iwerddon trwy lygaid David Gepp.

Gwelai Myrddin Tomos orffennol ei fywyd yn loyw o flaen ei lygaid, cwrs ei flynyddoedd yn eglur, fel caeau sofl tan loer y cynhaeaf.

"Roedd e yma ddoe..." Mae e'n troi i edrych arnat a'i lygaid yn dy amau.

Plygais i godi'r bag teithio, dim ond er mwyn peidio gorfod edrych i fyw ei lygaid, mae'n debyg.

Caeodd ei lygaid mewn poen ond wnaeth o ddim gweiddi unwaith.