Edifarhaodd iddo lyncu'r gewin am y milfed tro!
Mae'n ymddangos fod Syr Simon a Ledi Gysta yn arfar cnoi pob tamaid ddeng waith a thrigain cyn ei lyncu.
Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.
Pam, o pam yn y byd mawr fu'n rhai iddo'i lyncu?
Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.
Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.
Y mae'r hanes yn mynd rhagddi'n fywiog, gyda bywyd y fynachlog a thirwedd Castil yn cael eu darlunio'n gynnil ond eto'n fyw iawn; dyma lyfr i'w lyncu ar un eisteddiad.
Wedi rhoi cyfle inni lyncu eu potes meddwol hwy eu hunain o bositifiaeth, â'r awduron ymlaen i osod nod i Gymru, sef cyrraedd y chwarter uchaf yn ôl cynnyrch y pen yn y Gymuned Ewropeaidd erbyn y flwyddyn darged.
Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.
Dymunai i'r ddaear ei lyncu a'r môr lifo drosto a'i foddi.
Arhosodd am eiliad i'r pysgodyn gael cyfle i lyncu'r abwyd, yna dechreuodd droi ei sbinar.
Y gost oedd y bwgan yma eto, ond yn hytrach na gwario ar 'bowdwr mawr' o bryd i bryd i geisio'i symud yn ei grynswth, buasai wedi bod yn llawer mwy proffidiol i gael peiriant malu metling ('stone crusher') i lyncu'r gwenithfaen fesul tipyn, a'i werthu i wneud ffyrdd yn hytrach na'i fwrw dros y domen.
Ymladdodd Vera am ei hanadl, ei dynnu mewn yn ddwfn a'i lyncu'n awchus er mwyn ei chadw'i hun rhag llewygu.