yn y cyntaf o'r rhain, rhwng paris a lyons, adroddir fod y peiriant wedi gweithio'n arbennig o dda ar y cychwyn, ond ei fod wedi peidio a gweithio yn ddisymwth, ac nid oedd dim a allai david hughes ei weld i esbonio'r diffyg, na fedrai ychwaith ail gychwyn yr arbrawf.
deallodd drannoeth fod y gweithiwr telegraff yn lyons dan orchymyn i ddaearu'r wifren hanner ffordd trwy'r arbrawf, i ddangos i'r comisiwn nad oedd twyll yn bod ; byddai i'r negesau fod wedi parhau yn ddidor ddangos mai ffug oedd y cwbl, ac fod gan hughes gyfaill cyfagos yn cymeryd arno fod yn delegraffydd yn lyons bell.