Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lywodraethwyr

lywodraethwyr

Daeth pobl yr ardal i wybod am yr helynt, a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus lle y pasiwyd yn unfrydol gan lywodraethwyr a rhieni'r ysgol i bwyso fod Waldo'n cael cadw ei le.

Ond ein hargymhelliad cryf i lywodraethwyr yw y dylid trefnu popeth posibl - gan gynnwys pob cynllunio strategol - ar lefel clwstwr o ysgolion.

Ond, ysywaeth hefyd, Brenin Uffern ac Angau yw'r brenhinoedd: hwy'n bellach o lywodraethwyr piau'r Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith hithau yn y broses o wneud arolwg o'r posibiliadau ledled Ceredigion a Chaerfyrddin gan ddanfon holiadur (mwy cynhwysfawr nag eiddo Cyngor Ceredigion) at lywodraethwyr pob ysgol wledig yn y ddwy sir.

Yn y ddeddfwriaeth hon rhoddir grymoedd newydd i lywodraethwyr ysgolion a chyfundrefn o ddatganoli cyllid, sef Rheoli Ysgolion yn Lleol (RHYLL), sydd yn symud y penderfyniadau cyllido oddi wrth yr awdurdodau addysg lleol i ysgolion unigol.

Y mae gan lywodraethwyr ysgolion lawer o bwerau a chyfrifoldebu statudol a chymdeithasol, fodd bynnag rhaid i ni sylweddoli fod y ddau brif rym bellach yn nwylo y llywodraeth ganolog.

Cynhyrchwyd taflenni i'w dosbarthu i lywodraethwyr ac ysgolion yn amlinellu manteision addysg Gymraeg, a rhagwelir mai cyflenwi gwybodaeth am y Gymraeg fel iaith a chyfrwng fydd un o brif swyddogaethau'r pwyllgor yn y dyfodol agos.

Os byddwn ni'n gweld lleihâd mewn newyddion, gostyngiad mewn safon a chynulleidfa, yna bydd raid i lywodraethwyr y BBC ystyried yn galed beth maen nhw'n mynd i wneud," meddai.