Canlyniad hynny oedd i athrawon a phrifathrawon ofni mabwysiadu polisi cryf parthed y Gymraeg gan iddynt gredu na fyddai ganddynt gefnogaeth yr awdurdod.
Bydd y dulliau mae'r Coleg wedi'u mabwysiadu er mwyn sicrhau ansawdd yn weithredol gyda phob cwrs diploma h.y.
Felly fe gawn bobl eisiau mabwysiadu egwyddorion Iesu Grist neu gymhwyso ei ddysgeidiaeth at broblemau cyfoes yn y gobaith y gwnaiff hynny eu datrys.
O'r herwydd mae lle i adran, - os teimla'r aelodau fod adfyfyrio, treialu dulliau gwahanol, ymchwil ddosbarth ganolog a thrafodaethau, wedi arwain at ddulliau neu syniadau gwerthfawr,- eu mabwysiadu fel rhan o'u polisiau adrannol.
WL Oherwydd nad yw CCC yn fodlon mabwysiadu polisi o ariannu hir dymor rydan ni'n cael ein gorfodi i wneud cynlluniau'r cunud olaf.
Ni bu angen i'r Cymry wenud hyn eriod; neu, fodd bynnag, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn rhy falch o'u traddodiadau hwy eu hunain i ddymuno rhoi'r gorau iddynt a mabwysiadu dulliau a fenthycwyd o genhedloedd eraill.
Llacio'r cwlwm teuluaidd a wnâi mabwysiadu, ac felly nid oedd le iddo mewn cymdeithas nomadig; tynhau'r cwlwm yr oedd yr arfer gyda phriodi, ac felly rhoddid pwys mawr arno.
At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.
Mabwysiadu a glynu wrth gôd ymarfer da arfaethedig yr Adran ar yr amgylchedd.
Mae mabwysiadu polisi sy'n datgan mai Cymraeg yw cyfrwng addysg adran y plant bach yn hollol anhepgorol os yw Cymraeg y Cymry i'w chadw'n loyw.
(ch)Pob gwaith arolwg a ffurfio polisi%au ar gynlluniau statudol ac anstatudol megis y cynlluniau lleol a'r Cynllun Fframwaith cyn belled ag y mae angen gwneud hynny i baratoi'r cynlluniau neu'r polisi%au neu sylwadau drafft mewn ffurf derfynol i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor er mwyn eu hargymell i'r Cyngor yn unol â (d) isod.
Nid oes enghraifft bendant yn yr Hen Destament o ŵr yn mabwysiadu un arall; ond yr oedd yn arfer cyffredin ym Mesopotamia.
Rhaid i athrawon a/ neu adrannau ystyried mabwysiadu polisi pendant ynglyn a chywair eu hiaith lafar.
Dyna waith yr haen uchaf o feirdd, y penceirddiaid, er eu bod wrth ganu englynion yn hytrach nag awdlau, ac wrth gymryd serch yn destun, fel petaent yn mabwysiadu swyddogaeth yr ail haen, sef y beirdd teulu.
Y gwir amdani, a dyna ran o ergyd ganolog Dr Morgan yn ei lyfr, yw fod math newydd o bregethu wedi dechrau blodeuo at ddiwedd y ddeunawfed ganrif a bod haid o bregethwyr wedi mabwysiadu'r dull hwnnw.
Mae'n 'fam' i gasgliad digon difyr o anifeiliaid, gan ei bod yn 'mabwysiadu' anifail gwahanol pob blwyddyn trwy noddi un ar gynllun arbennig sy'n gwarchod anifeiliaid yn eu cynefin.
Ar ôl penderfynu ar y mesurau i'w mabwysiadu y mae oediad pellach cyn y gellir eu gweithredu - sef oediad gweithredu.
I bwrpas crynhoi rhestr o anghenion ymchwil, penderfynwyd mabwysiadu'r fframwaith a ganlyn, sy'n dangos y gofynion o fewn un o bedair ffram gyd-berthnasol.
Arwyddocâd hyn yw fod gwaith mawr yn ein haros i dorri trwy'r rhwystrau meddyliol a chymdeithasol sy'n atal Cristionogion yn gyffredinol rhag mabwysiadu safbwynt sydd mor amlwg gyson â dysgeidiaeth Iesu Grist.
Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.
Effaith hyn fydd ehangu a dyfnhau ei swyddogaeth gysylltiol, fel y llunnir adroddiad blynyddol sy'n dangos y modd y dyrennir cyllid, i wahanol swyddogaethau'r Grwp, fel y gall asesu'r pwysigrwydd a roddir i faterion yr amgylchedd, mewn perthynas â galw parhaus cymdeithas am fwynau, a mabwysiadu côd arfaethedig yr Adran ar ymarfer da.
Rhaid wrth gynllunio manwl, wrth drafod cynnwys y cwricwlwm ac wrth ystyried natur ac amrywiaeth yr arddulliau a'r ymagweddau dysgu sydd i'w mabwysiadu
Daw'r gwahaniaethau rhwng y ddwy gymdeithas i'r golwg yn eu hagwedd at ddau arfer cymdeithasol, sef mabwysiadu a'r arferiad i ddyn briodi gweddw ei frawd er mwyn codi teulu iddo.
Yr oedd ar raglen y Gynhadledd gynnig oddi wrth un o ganghennau'r Gogledd, yn galw am ymwrthod â pholisi economaidd tybiedig y Blaid, a mabwysiadu polisi pendant sosialaidd; yr oedd y cynnig yn faith iawn, gan ei fod yn manylu'n llawn am yr hyn a olygid.
Mabwysiadu'r côd ymarfer adrannol arfaethedig ar yr amgylchedd.
Er hynny, yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr at ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn dod fwyfwy o dan ddylanwad y Diwygiad Efengylaidd ac yn mabwysiadu dulliau efengylu a oedd yn gyffredin iddynt hwy a'r Methodistiaid.
Argymhellwyd y dylid mabwysiadu'r cynllun lleol fel drafft ymgynghorol yn ddarostyngedig i rhai mân newidiadau i bolisi%au unigol.
DANGOSYDDION PERFFORMIAD AR YR AMGYLCHEDD A AWGRYMIR: Cymryd rhan yn llawn yn Fforwm Amgylchedd Gwynedd a mabwysiadu a gweithredu côd yr Adran ar ymarfer da yn yr amgylchedd.
Ras Tafari, brenin Ethiopia, yn dod yn ymherawdr ar farwolaeth yr ymerodres Zauditu, ac yn mabwysiadu'r enw Haile Selassie, 'Grym y Drindod'.
Yn y cyswllt hwn roedd tair tuedd: * ystyried y gair llafar yn fodel ar gyfer y gair ysgrifenedig ac felly, mabwysiadu cywair safonol a oedd yn gallu ymddangos yn anystwyth a phell,
Mabwysiadu Ceisiadau Cynllunio am y tro cyntaf
Mae pob swyddog Undeb yn rhwyn i weithredu polisiau a dderbyniwyd yn eu Cynhadleddau blynyddol, rheini wedi eu mabwysiadu gan bleidlais deg.
Mae Cymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru wedi llunio rheolau sefydlog ar gyfer Cynghorau ac fel arfer byad y rhain yn cael eu mabwysiadu gan bob Cyngor.
Y diwedd fu mabwysiadu barn gytun mai'r polisi i'w argymell ar Gymru, pa mor anodd bynnag fyddai hynny, oedd niwtraliaeth.
Dylid mabwysiadu adroddiad adrannol, yn amlinellu'r materion hyn sydd dan sylw, a chan lunio côd ymarfer.
Erbyn hyn, mae'r cwmni wedi mabwysiadu trefn o ddefnyddio tapiau rhaglenni teledu lle mae hynny'n bosib.