Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

macdonalds

macdonalds

Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.

(Ac oddi ar imi ddychwelyd i Gymru, mae'r freuddwyd honno am Macdonalds Moscow wedi ei gwireddu, wrth gwrs.) Cyn imi Fynd i Foscow feddyliais i erioed y medrwn i newynu a sychedu am gynnyrch bas y gymdeithas gyfalafol.