Casgliad o gytiau'r gwhilion ar godiad tir yn ddu yn erbyn y machlud.
Yr oedd hi'n dechrau nosi nawr ac ni allent weld ond ffurf y tŷ mawr rhyngddynt â'r awyr, rhiw silŵet llwyd ar "sgrin" ruddgoch y machlud tua'r de-orllewin.
Gwawriodd y ganrif newydd pan oedd oes Victoria yn machlud.
Weithiau wrth iddo godi a machlud, mae'r haul yn llenwi'r awyr a lliwiau dramatig.
Cyfyd yr haul bob dydd yn y Dwyrain, a machlud yn y Gorllewin.
Mae'r pentrefi'n ymddangos yn hynod o dawel erbyn hyn, a'r haul yn dechrau machlud.
Yn ôl cyfraith gwlad yr oedd rhaid ei gladdu wedi machlud haul gan nas bedyddiwyd.
Er nad yw'r machlud mor ysblennydd a hynny mewn ardaloedd o ddiffeithwch mae'n aml yn gorchuddio'r tir dan glogyn coch wrth i belydrau'r haul ddal y gronynnau o dywod sy'n chwythu yn yr awel.Trwy gydol yr oesoedd bu'r haul a'i ddylanwad enfawr ar fywyd yn destun diddordeb mawr i ddyn.
Achosodd y gronynnau o lwch i'r machlud ledled y byd fod yn annaturiol o goch am gyfnod maith.
Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.
Fe aeth yntau oddi wrth ei wobr at ei waith, a chynhyrchu dwy nofel boblogaidd arall - Pan Ddaw'r Machlud ac Oed Rhyw Addewid, a gobeithio nad yw ei yrfa fel nofelydd ond megis dechrau.
Edward Vaughan yn ddiau yw'r amaethwr gorau yn Nyffryn Aerwen a phob ffermwr yn disgwyl ei arweiniad ef i dorri'r gwair: Yr oedd Edward Vaughan fel barcud i weld gweiryn aeddfed a machlud cadarn.
Nid oedd haul y Tegla 'enwadol' yn machlud wrth iddo ymadael o'r Gadair ymhen y flwyddyn chwaith, oherwydd yn yr un Gymanfa fe'i dewiswyd--gan fod y flwyddyn ganlynol yn flwyddyn dathlu deucanmlwyddiant tro%edigaeth John Wesley-i siarad ar y pwnc hwnnw yng Nghymanfa'r flwyddyn ddilynol ym Mae Colwyn.
Erbyn hyn roedd fy wyneb cyn goched â machlud haul.
Roedd yn noson drymaidd, cuddiai cymylau'r machlud, ac ni symudai un ddeilen yn y gwerni.
Neu ai golau ola'r machlud a welodd yn y ffenest?
Bellach dyma'r un actor yn cofnodi machlud y diwydiant - ie'r diwylliant ffilm hwnnw.
Gobeithiai a gweddi%ai y torrai ei wddf cyn machlud haul.
Os mai llwyd ddu oedd lliw'r Ynys ac yn ymddangos yn fawr ei maint a hynny ar adeg machlud haul, bron yn ddieithriad byddai glaw trwm trannoeth.
Gartref, yng Nghymru, bum yn gwylio'r haul yn machlud o ben clogwyn yn Eryri y tro hwn.
Yna allan ag ef i archwilio'r dref a'i hadnoddau, a synnu bod glan y mor mor atyniadol, bod y machlud mor ysblennydd, a'r tonnau bychain, anesmwyth yn sibrwd yn rhamantus wrtho.
Yn sicr, ni cheir golygfa fwy ramantus na heidiau o wyddau gwyllt yn croesi cynfas liwgar y machlud, a chefais gyfle i fwynhau hynny droeon ym Martin Mere.
Eisteddodd yno nes i'r awyr ddechrau gwanio ac i'r machlud daenu o bell gysgodion ei gochni dros y nen.
Bydd yn mwynhau ei chysgod ar ddiwrnod poeth; bydd yn dotio at liwiau a ffurfiant ei dail; fe wêl yr adar yn trydar ynddi a gyda'r nos bydd yn llawn syndod wrth edmygu ei ffurf yn erbyn cochni'r machlud.
Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch'). Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.
Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch').