Ar y cyfan, felly, gellir maentumio nad yr athrawiaeth economaidd oedd yn gyfrifol am hinsawdd economaidd Prydain wedi'r Rhyfel.
Yn unol â hyn cawn yr Athro W J Gruffydd yn maentumio fod tri chyfnod yn hanes barddoniaeth pob gwlad, sef, i ddechrau, gyfnod barddoniaeth lwythol, yn ail, cyfnod ymledu pryd y derbynnir dylanwadau allanol, ac yn drydydd, cyfnod ymdeimlad cenedlaethol dwys, megis cyfnod Shakespeare yn Lloegr a chyfnod Goethe yn yr Almaen.
Erbyn hyn fe drefnwyd dosbarthiadau mewn llawer mwy o brofion megis Cneifio, Godro, Mower, Maentumio Tractor, Defaid, Gosod Clwyd, Clawdd Sych a Chodi Gwrych i'r bechgyn, ac yna, Trin Cyw, Addurno Teisen, Crasu, Golchi a Smwddio, Picls a Saws i'r Merched, ac fe ddaeth ffrydlif o fathodynnau aur ac arian i aelodau'r Sir.
Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.