Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

magwraeth

magwraeth

Mae manylion magwraeth Christmas, fel y mae Dr Morgan yn eu portreadu, yn ddiddorol.

Gellid barnu hefyd iddo dderbyn magwraeth Gristnogol drwyadl.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

Yn bersonol, oherwydd fy magwraeth yn Llundain, dydw i ddim yn parchu Saeson fwy nag y dylwn i.' ' Er gwaetha'r newidiadau a fu yn y Brifysgol ym Mangor dros y blynyddoedd dywed Gwyn Chambers y bydd yn colli'r ochr ddysgu yn arw.

Yr oeddynt, fodd bynnag, ymhell o fod yn llwm eu byd, fel y dengys eu cartref helaeth sydd bellach wedi'i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn rhywbeth tebyg i'r hyn ydoedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg - proses sydd, gyda llaw, wedi profi fod y ty presennol, yn wir, yn fangre geni a magwraeth William Morgan, (yr oedd amheuaeth o'r blaen a allai fod yn ddigon cynnar).

Nid oes dim yn y pethau hyn yn feithrinfa a magwraeth i dduwioldeb a bywyd sanctaidd.

Yng nghyd-destun eu cyfnod yr oedd distadledd eu magwraeth yn werthfawr i'r tri.

Meddai ar y priodoleddau a nodweddai ei gŵr yn rhinwedd ei thras a'i magwraeth.