Un o'r ddwy genedl y galwai'r Cymry am eu rhyddid yn y ganrif ddiwethaf oedd y Magyariaid, sef cenedl Kossuth.
Y mae'n debyg y dylid cynnwys yr Wcraniaid niferus yn y categori cyntaf, er bod eu hymwybyddiaeth genedlaethol yn wannach o lawer nag eiddo'r Pwyliaid a'r Magyariaid ar yr adeg hon.
Pwysig hefyd yw sylwi ar honiadau Tsieciaid a Chroatiaid Awstria (fel y Magyariaid - ac Albanwyr Prydain) bod gan eu hen deyrnasoedd nodweddion gwladwriaethol o hyd, er na chymerid yr hawliau hyn o ddifrif gan yr awdurdodau.
Ar ben y rhestr daw dwy genedl gymharol fawr, y Pwyliaid, a gollasai eu hannibyniaeth yn ddiweddar iawn, a'r Magyariaid, a gadwai elfennau o statws awtonomaidd o hyd o dan Fien.