Roedd Jean Marcel wedi ei weld yn dod drwy'r gawod eira, dyn tal, main, a het ddu wedi ei thynnu dros ei dalcen, a choler ei gôt yn uchel dros y rhan isaf o'i wyneb.
Y nodyn cynta' a wnes i yn fy llyfr oedd bod ambell un o'r cyrff main wedi'u lapio mewn sach fwyd a gyrhaeddodd yn rhy hwyr.
Trawodd ef sawl gwaith yn erbyn y wal a theimlai ei ddwylo'n tynhau am y gwddf main bob tro.
Roedd yn fore heulog braf er bod yr awel yn ddigon main i beri i Rhys gerdded yn gyflym.
Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.
Roedd un yn gwneud ichi grebachu, ac edrych fel corrach, ac un arall yn eich gwneud yn hir a main fel coes brws.
Nid oes amheuaeth nad oedd ganddo, fel sawl bardd arall, synhwyrau main ond gan mor angerddol oedd ei ymserchu yn nodweddion y byd o'i gwmpas dymunai iddynt fod yn feinach byth.
Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.
Doedd hi ddim yn fawr ond yr un siap a blaen main y Concord, a gellid gweld dwy injan turbo nerthol ar ei thin.
Ar yr ochr agosaf o'r saith safai porth mawr sgwâr gyda phâr o dyrau main, isel wrth yr ystlysau.
Yr oedd Jacob yn olygydd craff ei lygad a main ei glust, ac nid âi dim o bwys heibio heb iddo dynnu sylw ato, a rhoi ei farn arno, heb flewyn ar ei dafod.
Roedd cilwyntoedd main yn sgrialu trwy'r gell, a hiraethai hyd yn oed am ei gell arferol.
Rhyw welltyn main, caled sydd yn tyfu yn y tir uchel yma.
Byddent fel rheol yn rhoi tipyn o godiad yn y ffordd o'r main line i'r chwarel.
Roedd ganddi dalcen cadarn a thrwyn hir main a gwelodd Llio ei gwefusau llawn yn toddi'n llinell i'w gwddf hir.
Dyma lle yr oeddynt hwy a'u teuluoedd yn preswylio - yn byw yn foethus yng nghanol eu llawnder - yn ymdroi mewn porffor a lliain main ac yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd eu plantations ar y dyffryn, neu hwyrach tua glannau y Mississippi, yn cael eu gweithio ymlaen gan eu niggers, ac overseers uwch eu pennau.
Mae hi'n ddigon main ar lawar heddiw." "siŵr o fod.
Dim byd ond wal gerrig!' Doedd hynny ddim yn hollol wir, achos roedd yna ffenestr fach fel agen saethu, oedd yn gadael rhyw lafn main o olau i mewn i'r 'stafell dywyll.
Tyf y blodau pedair petal bob yn ail ar y goes sydd a deilios main fel pinnau arni a chylch oi ddail ar y gwaelod.
Chdi wnaeth gur hyd y mur main, nid y fi.
O'i chyferbynu ag eiddo ei gūr, syml a phlaen oedd gwisg lwyd Lowri Vaughan, sylwodd Meg gyda pheth malais, a dygwyd pob mymryn o liw o'i hwyneb main a hir gan y ffisiw brown a fradychai yn hytrach na chuddio teneurwydd ei bronnau.
'Oes rhaid i rywun fod gartre?' Ailadroddodd Dan Din y geiriau mewn llais main gwawdus.
Wyneb main fel ffured oedd gan Dan Din a'i wallt yn gudynnau blêr ar ei ben ac yn dwysa/ u gwelwder ei wyneb.
Byddai'r ffordd dramiau hon yn mynd â'r glo draw hyd dir Penllwyn ac yna gadewid y tramiau i lawr i'r gwastadedd gan ddefnyddio'r Main & Tail, ac yna'r dair milltir i lawr at afon Gwendraeth.
Ac roedd hynny o arian a feddai wedi'u cadw'n ddiogel mewn cwdyn lleder, main a gyd-darai'n gyson â'i geilliau wrth iddo gamu trwy'r dorf gan wthio rhwng un ceffyl a'r llall.
Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.
Fe'i paratowyd gan ragdybio mai chwyn yw'r planhigion dail llydain, ac mai gwair yw'r rhai dail main.
Tyfai ymylwe o flew main o dan y llygaid ac o gylch y genau mân.
Ymborthant trwy sugno sudd planhigion drwy'r rhannau main, pigog o'u cegau.
Yng Nghymru rydym yn hoff o roi 'i' yn y canol gan wneud sŵn main Halelwia.
Roeddent yn loyw wlyb rhwng ei gwefusau main, gor-dyn.
Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.
Dyn main, cyflym ar ei droed ydoedd.
A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.