Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

maith

maith

(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.

Dwynwen, pes parud unwaith Dan wþdd Mai a hirddydd maith, Dawn ei bardd, da, wen, y bych; Dwynwen, nid oeddud anwych.

Yn ffodus cafwyd gwr â feddai brofiad maith fel Gweinidog i'w olynu, sef y Parchedig E.

Yma, mewn man gwag yn cynnwys fflagiau siâp hecsagon, taenwyd hen ryg Twrcaidd coch ar lawr ac ar y ryg roedd cadair olwyn, ac yn y gadair olwyn roedd gŵr oedrannus, yn amlwg yn darfod, yn ein gwylio ni'n dod gyda llygaid du y diffoddwyd yr holl dân ynddynt ers amser maith, ond a gynhwysai o hyd uniongyrchedd glo-ddu y llygaid yn y darlun a grogai uwchben y silff ben tân yn y cyntedd.

Cofiwn am yr oriau maith, yr hamdden prin, a'r cyflog isel.

Ymhell cyn dechrau'i wyliau dechreuasai Hector gyfrif y dyddiau hyd y cychwyn ar ei antur fawr, a chael hynny'n orchwyl maith - hyd yr ychydig ddyddiau olaf.

Nid oedd newid sylfaenol yng nghyfeiriad meddwl Hugh Hughes yn ei ysgrifau maith yn y Seren Ogleddol, felly, ond yn sicr yr oedd ei bwyslais yn dechrau symud o'r ymosodiad cyffredinol ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, tuag at un agwedd arbennig ohono.

Am y rhostir maith hwn a eilw'r Sais yn Denbigh Moors a ninnau Hiraethog yr ysgrifennodd T. Glynne Davies ei 'frawddegau':-

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Canlyniad hyn oll oedd iddynt gynnal parêd ar ôl parêd, er mwyn iddynt ein cyfrif sawl gwaith yn ystod y dydd, a chan fod tros bedair mil ohonom cymerai'r gorchwyl hwn amser maith.

Achosodd y gronynnau o lwch i'r machlud ledled y byd fod yn annaturiol o goch am gyfnod maith.

Ma' hi yn cymryd amser maith i drefnu rhywbeth fel ymweliad arweinydd yn iawn, a bu gwaith caled yn mynd ymlaen.

Roedd y rhagymadrodd llawn - a maith, ar brydiau - yn hanfodol.

Fel hyn dewiswyd Iesu yn gynta' i fod yn Ben, Ar bob peth oll a gre%id mewn daear, dwr, a nen; A thrwy awdurdod ddwyfol i'w gostwng iddo ei hun, Fel corff mawr maith amrywiol oll ynddo Ef ei Hun...

Dadleuir felly i esblygiad y ffurfiau uwchradd gael ei ohirio am oesoedd maith hyd nes bod cyflenwad digonol o ocsigen wedi ymgasglu yn yr amgylchedd a phrosesau metabolig wedi datblygu digon i fanteisio ar hyn.

Treulio amser maith yma yn siarad efo Kate a'r athrawon Saesneg.

O gyfiawnder maith di-drai!

Ni fyddai neb byth yn meiddio ei wrthod roedd hanes am rai yn gwneud hynny flynyddoedd maith yn ôl ac roedd y rheiny wedi dioddef sawl anffawd a phob mathau o ddamweiniau yn fuan wedi hynny.

Mae sôn hefyd fod Gadaffi yn wrywgydiwr, ei fod yn hoffi gwisgo dillad menywod ac yn cael pyliau maith o iselder ysbryd.

Flynyddoedd maith yn ôl, roedd saer maen tlawd o'r enw Bernez yn byw ym mhentref Plouvineg.

Cyffredin iawn yw ansawdd ei ganu, fodd bynnag, a bu'n destun gwawd a digrifwch yn eisteddfodau'r de am gyfnod maith.

Wn i ddim ar y ddaear pwy ydyn nhw'r rhan fwya; wyrion efalla erbyn hyn, i rai yr oeddwn i'n gybyddus â nhw amsar maith yn ôl.

Ni chefais i'n bersonol ddim profiad o'r driniaeth, ond deallaf ei bod yn un araf a maith.

Mae'n anodd tyfu tegeiriannau oherwydd dibynniaeth y tegeirian ar y ffwng ynghyd â'r amser maith sydd arno ei angen i egino.

'Roedd Derek yn ffrindiau mawr gyda Meic Pierce am flynyddoedd maith cyn i Meic benderfynu dychwelyd i fyw i Sir Fôn.

Disgrifir yn fyw iawn gyfnodau maith o anhrefn ac anweddustra yng nghorff History Syr John Wynn.

Fel y gwyr y rhan fwyaf, pethau tebyg i flew yw silia a fflagela, yn nodweddiadol yn symudol gan weithredu i yrru'r organeb drwy'r dwr neu i yrru'r dwr heibio i'r organeb, ac maent ers amser maith wedi denu sylw biolegwyr.

Brwydr mewn du a gwyn oedd brwydr Trefechan a'r brwydrau am gyfnod maith wedi hynny.

Felly nid oes unrhyw demtasiwn i gyfreithiwr Prydeinig ddechrau achos, nid am fod yr amddiffynnydd o feddyg wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond yn y gobaith y bydd y cwmni yswiriant yn dewis talu iawndal yn hytrach na wynebu'r draul enfawr o gynnal achos cyfreithiol maith.

Yn ogystal, honnir ei fod yn dioddef cyfnodau maith o iselder ysbryd ac yn crwydro coridorau'r barics yn siarad â'i hunan.

Gweld yr Hwn fu'n prynu im' bardwn Prynu pardwn maith y byd; Gweld ei wallt, a gweld ei wisgoedd, Gweld ei ruddiau yn waed i gyd; Fe fy mhechod, Yrodd allan ddwyfol waed.

Ond roedd hynny amser maith yn ôl.

Yn y gerdd hon 'roedd Gwilym R. Tilsley yn clodfori'r moderneiddio a fu ar y pyllau, ond 'doedd dim awgrym ynddi fod y diwydiant glofaol ar fin wynebu cyfnod maith o newidiadau a phroblemau a fyddai'n arwain yn y pen draw at dranc y diwydiant.

Yr oedd ei bwyll a'i ddoethineb, heb sôn am ei brofiad maith mewn llywodraeth leol, yn rhoi gwerth ar ei gyfraniadau i'r pwyllgorau y gwasanaethai arnynt.

Mae'r graig wedi'i naddu'n glogwyni serth mewn sawl man wrth wynebu ymosodiadau'r lli ers canrifoedd maith.

Doedd neb ar fwrdd y British Monarch wedi gweld llong arall ers oriau maith, ac roedd y tir agosaf fil o filltiroedd i ffwrdd!

Amser maith yn ôl yr oedd Tonle Sap yn fraich o'r môr, ond gyda threigl y blynyddoedd ymffurfiodd y llaid a gludid gan yr afon i lawr i'r môr, yn ddarn o dir ar draws genau'r afon a chaewyd Tonle Sap i fewn.

Arhosodd felly am amser maith.

Y priodoliaethau maith diball A geir yn un, geir yn y llall; Fy Nhad, fy Iesu, a'r Ysbryd cun, Sy' Dduw, ni fedda'i eto ond Un.

Y naill oedd bod y golomen yn mynegi'n ddiriaethol ddyhead dwfn a fuasai yn fy enaid am amser maith i helpu gwaith y Weinidogaeth Iacha/ u yng Nghymru.

Ysgrifennais adroddiad maith gan lunio stori am hen wraig oedrannus a oedd eisiau bod ym Mhwllheli yn fuan i ddal rhyw drên neilltuol a dweud fel 'roedd fy nghalon yn gwaedu trosti - hyn ynghyd ag esgusodion eraill.

Un perchennog fu'n amaethu'r tir am gyfnod maith gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

'Roedd yn adroddiad maith, ond yr ateb a gefais gan Mr Jones oedd, '...

Un bore, roedd Twm yn wael iawn, yn dioddef gan effaith dyddiau maith o oryfed, a dechreuodd gysidro ei gyflwr.

Mor wahannol fu'r gaeaf eleni i syniadau Mr J Rhys Davies, Pontyberem am aeaf traddodiadol - Oriau maith yr oriau mân - y gwydr goed Yn y gwynt yn gwegian Briw a gwae sy lle bu'r gân Ac angau lle bu'r gyngan.

Diolch i'r drefn, wnest ti ddim blasu ond y tameidyn lleia - ac eto, roedd hynny'n ddigon i'th hala i gysgu am amser maith!

Tilsley yn clodfori'r moderneiddio a fu ar y pyllau, ond 'doedd dim awgrym ynddi fod y diwydiant glofaol ar fin wynebu cyfnod maith o newidiadau a phroblemau a fyddai'n arwain yn y pen draw at dranc y diwydiant.

Myfi a gymerais fy hynt amser maith yn ôl i dalaith o'r enw Califfornia.