Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!
Gorchuddiwyd y bwrdd ar y llwyfan gan Jac yr Undeb a chyhoeddodd Price yn ei lais godidog mai testun yr anerchiad coffa fyddai, "I lawr ag ef mal rhyw gi%!
Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen Iaith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt.