Mae'n cael ei adnabod fel John Davies Mallwyd oherwydd iddo gael ei benodi yn rheithor yno yn 1604 ond nid am ei waith fel rheithor y mae'n cael ei gofio.
Magwyd Richard Davies, mae'n amlwg, yn awyrgylch a thraddodiad yr uchelwyr o barch tuag at leynddiaeth gynhenid Cynru a diddordeb mawr ynddi, megis rhai eraill o gyfieithwyr beiblaidd ei gyfnod; a William Salesbury, William Morgan, a John Davies, Mallwyd, yn eu plith.
Y mae lle i dybio iddo gael bywoliaeth Mallwyd un ai trwy ddylanwad yr Esgob Morgan neu yn rhodd ganddo ychydig cyn iddo farw.
Esgob a pherson, y Dr Richard Parry, Esgob Llanelwy, ac olynydd yr Esgob Morgan, a'r Dr John Davies, person Mallwyd.
Ef o'i fyfyrgell yn rheithordy Mallwyd, oedd ysgolhaig mwyaf cyfnod olaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.
Gwyddys bellach mai ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ddwyn allan argraffiad diwygiedig o'r Beibl a wnaeth yr Esgob Parry, a chael gan ei gyfaill ysgolheigaidd a galluog, person Mallwyd, wneud y rhan fwyaf o'r gwaith.
Ym Mallwyd y treuliodd weddill ei oes.
Y mae ôl llaw gelfydd person Mallwyd ar y Beibl newydd, a'r iaith yn gynnil a chywir a glân.