Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

malurio

malurio

Pam y penderfynwyd defnyddio argraffiad Charles ac Oliver sy'n malurio'r testun gwreiddiol yn enbyd?

Gwelwyd fod arch Edward Parry wedi malurio, ond fod arch Ann Parry yn aros heb ond ychydig o amhariad arni.

Gellir dweud mai da yw gweithgareddau sy'n gogwyddo at greu cymundod, ac yn cyfoethogi bywyd cymdeithas, ac yn meithrin cymdogaeth dda; ac mai drwg yw gweithgareddau sy'n malurio cymdogaeth a chymdeithas.

Roedd gwynt mawr wedi taro eu llong ym Môr China, a'r llifeiriant wedi rhuthro i ystafell y peiriannau gan fygwth malurio'r llong yn ddarnau.

Yr oedd hyn yn brofiad newydd iddo, ond ychydig yn unig o'r rhyfel a welodd Phil, oblegid ar un o'i fordeithiau cyntaf cafodd ddamwain erchyll pan ddaliwyd ei droed chwith mewn peirianwaith ar fwrdd y llong a'i malurio'n ddrwg.

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.