Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mamiaith

mamiaith

iaith ffurfiol mewn sefyllfa ddosbarth ond iaith fwy anffurfiol gyda grwpiau ac unigolion, - cyfrwng swyddogol y dosbarth yn ystod y cyfnodau athro-ganolog ond mamiaith y disgybl neu gynnal/datblygu'r ail-iaith yn ol anghenion yr unigolyn yn y sefyllfa plentyn-ganolog.ii) Ceisiwch osgoi gorlwytho'r drorau uchaf.

Oherwydd Cymru i mi yw'r Gymru Gymraeg, y rhan honno o'r wlad lle mae pobl yn dal i siarad, sgrifennu ac anrhydeddu eu mamiaith.

Mae yna glybiau house, drum'n bass, garage a trance i enwi dim ond rhai, a dim ond rwan yr ydym ni fel Cymry yn dechrau dod yn gyfarwydd â rhai o'r enghreifftiau hyn yn ein mamiaith.

Wel os mai Cymraeg ydi'ch mamiaith chi, dwi ddim yn gweld ei bod hi'n iawn i chi newid.

Anllythrennog hollol, fel y buasid yn tybio, yn eu mamiaith ac yn Lladin, oedd mwyafrif llethol lleygwyr y cyfnod.

Y mae'r tair merch sydd heddiw, a minnau'n sgrifennu, yng ngharchar Bryste wedi eu rhwystro rhag siarad yn eu mamiaith wrth eu mamau, yn pigo cydwybodau hyd yn oed aelodau seneddol Cymreig y Blaid Lafur.

Dywed Dr Geraint Wyn Jones yn ei Iyfr pwysig Agweddau ar Ddysgu Iaith fod tebygrwydd rhwng baban yn dysgu mamiaith a'r proses o ddysgu ail iaith.

Os mai trwy gyfrwng y Saesneg y dysgir plant, pa iaith bynnag eu mamiaith - boed hynny yng Nghymru neu yma yng Nghaerl^yr lle mae chwarter y plant sy'n byw yma yn Asiaid neu yn yr Unol Daleithiau lle mae lleiafrif arwyddocaol Hispanig neu mewn llawer man ledled y byd - nid oes byth broblemau mae'n ymddangos.

Cyfeirir at bob un o'r categoriau hyn yn yr adroddiad, ond cynhwysir a-ch dan y pennawd Cymraeg fel ail iaith, ac ymdrinir â mamiaith ar wahân.

Cytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i Gynllun Darllen Graddedig yn yr ail iaith; dd) bod angen goresgyn yr anhaster o ledu cynllun darllen o un sir i'r llall; e) bod yr Uned Iaith yn gwneud cais i'r Swyddfa Gymreig am Swyddog Cynradd a fyddai'n ymwneud â mamiaith ac ail iaith.

Fe'i bwriadwyd ar gyfer barddoniaeth, nid 'masnachaeth'; 'sidanwisg' ydoedd 'a roddwyd/Am feddyliau'r nef i ni'; mamiaith ydoedd a'i gwreiddiau'n ddwfn yn serch cartrefi Cymru:

Mae rheolwr cyffredinol gwesty'r Celtic Royal yng Nghaernarfon wedi sicrhau ymgyrchwyr iaith na fydd y gweithwyr yn cael eu gwahardd rhag siarad eu mamiaith o hyn ymlaen.

Saesneg, er gwaeth neu er gwell, ydi'm mamiaith i.

Ar ddiwedd y cwrs llwyddodd i ennill cymeradwyaeth mesuredig yr athro a rybuddiodd y dosbarth i beidio a gwangalonni pan aent i Ffrainc a chlywed y brodorion yn parablu'n mamiaith, a hwythau heb fedru deall odid ddim, gan ei bod yn angenrheidiol treulio tipyn o amser i ymgyfarwyddo a seiniau a rhuthm yr iaith fel y'i seinid yn naturiol gan siaradwyr brodorol.

Fe ddylech fynnu eich bod yn cael addoli yn eich mamiaith.

Mae mamiaith y disgybl yn ffactor sy'n cymhlethu'r broses o symud o'r cynradd i'r uwchradd.

Oherwydd gostyngiad sylweddol yng nghanran y Cymry fu'n mynychu'r ysgolion hyn yn ystod y ddegawd ddiwethaf bu dirywiad ym medr a gafael y Cymry ar eu mamiaith.

Felly, er mwyn ceisio'u paratoi hwythau i allu hyfforddi eu praidd bu raid cyfieithu i'w mamiaith ar eu cyfer lawer o lenyddiaeth grefyddol yr oes a ysgrifenasid yn Lladin yn wreiddiol.

(b) addysg yn y Gymraeg fel pwnc, mamiaith ac ail iaith.

Yn y sefyllfa bresennol gellir yn fras ddisgrifio lefel ieithyddol plant mewn pum categori: a) hwyr-ddyfodiaid; b) dysgwyr; c) dysgwyr da; ch) safon estynedig yn y Gymraeg; d) mamiaith.