Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

manceinion

manceinion

Ar y daith adref ar ôl chwarae ym Manceinion roedd yn draddodiad rhoi triniaeth arbennig i hogiau newydd y flwyddyn gyntaf Mae eli o'r enw 'Sloane's Liniment' i'w gael ar gyfer poenau yn y cyhyrau sy'n creu gwres mawr ar ba ran bynnag o'r corff y'i rhoddir.

Ym Manceinion yr ymgartrefodd, yn eisteddfodwr brwd, a oedd eisoes wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Rhosyn Meirion, gyda gwasg Isaac Clarke, cyfrol a oedd yn cynnwys pryddest i Kossuth yr arweinydd Hwngaraidd.

Nes i Sajudis ddechrau ymgyrchu am ryddid, doedd hi ddim wedi ymwneud â gwleidyddiaeth; economegydd amaethyddol oedd hi a fu'n astudio ym Mhrifysgol Manceinion.

Mab Trefor Bach (i bobl Llangefni) yw Barry Williams, Athro ym Manceinion ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae wedi profi ei hun yn ddramodydd o fri.

Mae'n dychwelyd i Brydain yr wythnos yma wedi tymor llwyddiannus yn Nhŷ Opera Efrog Newydd ac yn mynd ar daith i Glasgow, Birmingham, Llundain a Manceinion.

Graddiodd Arshad Rasul mewn Peirianneg Electronig o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion (UMIST) yn 1976 ac mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad ym maes peirianneg teledu.

Aros heno ym Manceinion gyda ffrindiau, Rob ac Eleri, i gael hedfan i Munich yn gynnar yn y bore.

Bydd yr athletwr o Gymru, Christian Stevenson yn cystadlu heno ym Manceinion yn y ras 3,000 metr dros y clwydi.

Wedyn ar ôl hedfan o Gran Canaria i Madrid a gorfod newid awyrennau ac ar ôl taith naw awr, cyrhaeddodd y chwaraewyr faes awyr Manceinion.

Ychydig iawn ar wahan i ymweliadau a'r theatr broffesiynol ym Manceinion.

Rhys Stephen (Gwyddonwyson) gweinidog amlwg ym Manceinion a chefnogwr brwd i Ieuan Gwynedd a oedd yn hanu o Dredegar - fe ystyriwyd offeiriaid sir Fynwy hefyd yn fradwyr ar ôl i'w tystiolaeth i'r Comisiwn gael ei chyhoeddi.

Yn Llyfrgell y Sir, Llangefni; Archifdy Mon; Llyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor - lle cafwyd llawer o gymorth gan Tomos Roberts; Llyfrgell Ganolog Manceinion ac mewn hen rifynnau o'r "Guardian a'r Times".

Mae prawf meddygol gafodd Van Nistelrooy ym Manceinion dros y Sul wedi profi ei fod wedi gwella'n llwyr o'r anaf i'w benglîn a'i rhwystrodd rhag ymuno â Manchester United am £18.5 miliwn y llynedd.

Arferai Hugh Owen Talgwyn Isaf gario "visitors" o Lerpwl, Manceinion a Chaer yn ei "waggonett" dau geffyl o Stesion Pentraeth i'r Traeth Coch am ychydig sylltau, a'r un modd o'r Benllech gan fod tua hanner milltir i'r pentre pryd hynny, ond sydd erbyn hyn yn dref reit dda.

Newydd orffen cwrs yn y 'Tech' ym Mangor y mae Becca ac yn gobeithio dechrau cwrs 'astudiaethau cymdeithasol' ym Mhrifysgol Manceinion yn yr Hydref.

Tystia i eiriau caredig Saunders Lewis a beirniadaeth galonogol WJ Gruffydd yn Eisteddfod Manceinion fod yn sbardun iddi.

bu'r ail gynhadledd mor llewyrchus â'r gynhadledd gyntaf a phan ddychwelodd henry richard o ffrainc cynhaliwyd nifer of gyfarfodydd cyhoeddus drwy brydain, a'r rhai mwyaf nodedig ohonynt ym manceinion a birmingham, i ategu a gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed ym mharis.

Ond, ym Manceinion a Llundain mae'r mwyafrif a ddaeth i Brydain wedi setlo.