Safai, a'r crwt bach yn gorffwys ar ei chlun, i wylio Dai Mandri'n gweithio ar ddarn o haearn, heb yngan gair ac heb wenu, fel pe bai Hadad yn greadur ar wahân.
Roedd yn rhaid troi 'nôl a gadael Dai Mandri i wynebu 'i dynged.
Trwy'r dydd drannoeth bu'n rhaid i Dai Mandri ddal i gerdded, a'i ddwylo ynghlwm.
Roedd yn anodd ganddo gredu i'r tri swyddog lwyddo i gyrraedd diogelwch, ac am y dynion a adawyd ar ôl, roedd yr ergyd a glwyfodd y morwr wedi diasbedain fel dedfryd angau yng nghlustiau Dai Mandri.
Clymwyd garddyrnau Dai Mandri a rhaffwyd ef wrth y camel olaf yn y rhes ac i ffwrdd â nhw ar frys, y camelod yn trotian a Dai hefyd yn gorfod tuthio yn anesmwyth tu ôl iddynt.
Newidiodd Dai Mandri ei fyd yn llwyr, collodd pob syniad o bellter ac amser.