Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

manion

manion

Nid oes a wnelo hi â manion ac eto nid yw'n colli dim.

'Roedd y set mewn darnau - pot o flodau melyn; desg ysgol a chadair; mainc, overalls a manion eraill; côt-ddaliwr efo gwisgoedd; a basgiad fawr a dwy gadair.

Ei chryfder yw ei hamgyffred eithriadol o sefyllfa a chymeriad, o gyfraniad manion bywyd i'w gyfanrwydd, a'i hymdeimlo mawr â'r elfennaidd a'r sylfaenol, yn enwedig lle mae colli o ryw fath, neu fod heb rywbeth, yn profi ac yn bychanu dyn.

Dro ar ôl tro mae'n symleiddio manylion er mwyn pwysleisio'r hanfodion - y graig, y môr, y tir - gan hepgor manion amherthnasol er mwyn dal ysbryd yr olygfa fel y gwelai ef hi.