Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mantais

mantais

Teimlais ei bod hi'n rhaid i mi borthi sylw Delwyn ar unwaith, ac achub mantais ar falchder y gath yn ei chynffon.

Mantais y Blaid, tra bo diddordeb pawb arall mor isel, yw bod ei chefnogwyr wedi cael blas mor dda ar lwyddiant yn ddiweddar.

Mae cynhyrchwyr profiadol yn awyddus i weithio fel hyn, rhai llai profiadol yn gweld mantais sustem fwy tebyg i'r un presennol.

Mantais aruthrol mewn lle mor gyfyng oedd cad dau ddyn yn medru taro hefo unrhyw law ymlaen.

Y mae llawer mantais mewn bod yn grŵp ymwthiol.

'Roedd Mark yn achub ar bob cyfle i gymryd mantais ohono ond yn y diwedd llwyddodd Darren i weld trwy gastiau Mark.

Mantais trefniant o'r fath yw hybu cydweithrediad, ond y berygl amlwg yw ei bod yn haws cau un 'safle' o ysgol nac i gau ysgol gyfan.

Mae Lloegr i gyd allan am 315 yn ei batiad cynta ar drydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Tîm y Llywodraethwyr yn Peshawar, Pakistan - mantais o 91 ar y batiad cynta.

Mantais arall iddo fel golygydd oedd bod ganddo ddiddordeb byw ym materion a phroblemau'r dydd, ac ni phetrusai cyn cynnig ei sylwadau cytbwys arnynt, naill ai'n feirniadol neu'n adeiladol.

Mantais hefyd yw iddo fod yn adnabod rhy wun sy'n adnabod rhywun sy'n adnabod y meistr tir.

Cefais well mantais na neb arall i'w adnabod yn drwyadl.

Yr oedd hi'n danbaid eisiau i'r bobl ifanc gael pob mantais addysg a chrefydd, ac iddynt eu gwerthfawrogi.

Er gwaethaf cyntefigrwydd eu harfau ac offer soffistigedig milwyr Therosina, roedd y Madriaid yn ymladd yn eu cynefin ac yn gwybod sut i'w ddefnyddio i'w mantais Serch hynny, roedd colledion y llwyth yn enbydus ac ni roddwyd unrhyw gymorth i'r rheini a anafwyd.

Rhaid i chi beidio ag aberthu yr un darn - hyd yn oed un gwerinwr bach - yn yr agoriad heb fod gennych sicrwydd y byddai 'aberth' felly yn rhoi mantais glir i chi.

Gan fod pob rhan o'r ymgynghori wedi dangos mesur helaeth o gymeradwyaeth i'r ddogfen ymgynghorol, yr oedd yn gwbl resymol, felly, dderbyn y ddogfen ymgynghorol fel sail gadarn i'r strategaeth ei hun, gan ychwanegu'r her o newid arferion defnyddio'r iaith, ac annog pobl i gymryd mantais o'r cyfleoedd a ddarperir at y tair prif her a nodwyd yn y ddogfen ymgynghorol.

Lladd cenedlaetholdeb yw pregethu i etholwyr Cymru mai mantais economaidd iddynt hwy fyddai fod gan Gymru annibyniaeth neu mai felly'n unig y cânt hwy lywodraeth sosialaidd.

Mantais hynny oedd fod costau teithio lawer iawn yn is.

Sgoriodd India 501 yn eu batiad cynta nhw - mantais o 110.

Mae hi'n anodd penderfynu mewn gwirionedd os mai mantais ynteu anfantais ydyw'r ffaith fod nifer o'r caneuon hyn wedi cael eu chwarae'n gyson ar raglenni Radio Cymru ers dros flwyddyn bellach.

Hyderwn ein bod wedi cael y moddion gorau i roddi mantais i'r holl fyfyrwyr Cymreig i gyfarfod a'u gilydd yn Rhydychen; a gallwn sicrhau y caiff myfyrwyr newydd groeso calon, a doethineb profiad yr hen aelodau, a gŵyr myfyrwyr mor werthfawr ydyw hwn, ar eu dyfodiad yma.

Araf ar y cyntaf oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr i'w chofleidio ond ni buont yn hir cyn sylweddoli ei mantais fel cyfrwng addysg.

Bu bron i Mark briodi Meinir Powell yn 1997 - 'roedd Meinir wedi cyfarfod Kath mewn ysbyty meddwl a cheisiodd Mark gymryd mantais ohoni.

yr oedd dyfais newydd david hughes, er mor amherffaith, yn cynnig arf bwysig i'r consortiwm, gan ei fod cymaint yn well nag unrhyw beiriant arall, ac felly gallai roddi mantais fasnachol aruthrol i'r sawl a'i pherchenogai.

Mantais fawr y system yw y gellir cael llawer o epil o deirw unigol sydd wedi eu profi'n fanwl cyn eu defnyddio.

Mantais arall oedd cael croesi rhwystrau rhwng yr ardaloedd Protestannaidd a Chatholig fel y mynnai.