Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

marchnad

marchnad

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, i roddi rhybuddion gorfodaeth dan y deddfau cynllunio ynglŷn ag unrhyw ddatblygiad marchnad awyr agored (ar y Sul neu unrhyw ddiwrnod arall) ac i erlyn mewn unrhyw achos yn codi o'r rhybuddion hynny.

Mae hynny'n gyson â chred y cwmni bod yn rhaid ceisio creu diddordeb a marchnad y tu hwnt i Gymru.

Un diwrnod, ym marchnad Addis, daeth crwt bach wyth oed atom a dweud: 'Where's the fuckin' coffee?' Dyna'r unig Saesneg a wyddai, sef union eiriau cyntaf Geldof pan gyfarfu â Mengistu.

Cymunedau rhydd nid marchnad rydd.

Er y gwelwyd datblygiadau mewn sawl maes, mae angen i BBC Cymru bellach ailddynodi ei rôl ai sefyllfa mewn marchnad ddarlledu syn newid yn gyflym, wrth i ddatblygiadau technolegol gynnig cymysgedd o ddewis i'r gwylwyr ar gwrandawyr, ar deledu digidol ar hyn o bryd, ar radio sain digidol cyn bo hir, ac yn fuan drwy wasanaethau arlein.

Ni fyddai unrhyw anhawster ychwaith i ymestyn y model gwreiddiol i gynnwys marchnad arian a marchnad lafur yn ogystal â marchnad nwyddau.

Mae'r gweithwyr diwylliannol hyn yn darganfod bellach fod cyfyngiadau sylweddol hefyd ar fynegiant artistig yn economi%au marchnad rydd y Gorllewin.

'Am dros ddegawd, dioddefodd y system addysg yng Nghymru ffrydlif o ddiwygiadau honedig nad oedd yn berthnasol i Gymru, ac yn ymwneud yn unig â dogma marchnad rydd y Torïaid.

Byddai Morgan Llwyd yn pregethu ym Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy'r farchnad a'i ddwy law ar ei gefn, a'i Feibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

Ond nid oedd y symudiad yma i ffwrdd oddi wrth y sectorau traddodiadol yn cael ei adlewyrchu mewn ymlediad o'r sylfaen economaidd er mwyn darparu marchnad gyflogaeth fwy amrywiol.

Mae polisïau Marchnad Rydd y Torïaid wedi chwalu cymunedau lleol trwy Gymru.

Yn bennaf hormonau oedd yn dal ym meddiant ffermwyr cyn y gwaharddiad oedd y rhain, ond yn ogystal clywyd bod marchnad ddu yn cyflenwi'r angen.

Gan fod marchnad iddynt yr oedd llaweroedd o bobl yn cael bywoliaeth o werthu cwningod bywoliaeth eithaf bras mewn rhai achosion - ac yn naturiol, nid oedd y clwyf yn achos llawenydd i'r rheini.

Heb betrool, heb drafeilio; heb nwyddau mewn na warws na marchnad.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd mwy o arian nag erioed o'r blaen ar gael i greu gwasanaeth rhaglenni sy'n cwrdd â'r sialens sy'n ein wynebu mewn marchnad gynyddol gystadleuol.

Ond, wrth gwrs, yn wyneb gofynion y Ddeddf Uno, Saesneg fyddai iaith llys, marchnad, cyfraith a gweinyddiad sifil.

Llond lle o dai bwyta bychain, siopau a marchnad.

Cre%wyd marchnad fewnol artiffisial i'r cynnyrch Ewropeaidd.

Digwyddodd daro ar Ali y bore hwnnw ym marchnad Casnewydd pan ofynnodd Ali iddo hebrwng y cig i Heol Grafton a'i adael yn y gegin.