Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

marchog

marchog

Y mae Geraint wedi'i addysgu, nid yn nyletswyddau marchog fel y bu rhaid gwneud yn achos Peredur wladaidd, ond fel llywodraethwr, a'i gyfrifoldeb ef bellach yw cynnal ei lys ei hun, amddiffyn ei derfynau ac ymgymryd â dyletswyddau arglwydd.

Mae'i gwaedd yn dadebru'r marchog hanner marw a gwêl ef mor anghyfiawn fu iddo farnu Enid.

Ceffyl gwyn oedd hwn ac ar ei gefn yr oedd marchog yn dal bwa.

Gorwedda'r marchog yn hollol lonydd.

Caiff ei yrru gan ei ddicter diorffwys i'w sarhau'n gyson, amau cymhelliad pob gair a lefara a'i thrin yn is na baw sawdl, er mwyn gosod prawf ar ei ffyddlondeb iddo ac er mwyn dangos iddi nad yw ef wedi colli dim o'i allu fel marchog ymladdgar llwyddiannus.

Un hen ddyn, un gwas bach ac un marchog wedi'i glwyfo.

Roedd y golau mor gryf nes bod Meic yn gorfod codi ei law i gysgodi'i lygaid, a dyna pryd y sylwodd ei fod yn gwisgo maneg ledr drom, fel dyrnfol marchog canoloesol.

Fe welir oddi wrth hyn fod dau gastell yn fwy o werth nag un Frenhines ac fod y Frenhines yr un gwerth â dau Esgob a Marchog neu ddau Farchog ac Esgob.

Ond beth petai Gwyn yn penderfynu mynd â'r Marchog ar ei symudiad nesaf?

Gyda'th gleddyf yn dy law fe ymuni â'r ugain marchog sydd wedi amgylchynu'r tri marchog.

Canlyniad trechu marchog y cae niwl yw tangnefeddu, hynny yw, cymodi, pawb ohonynt â'i gilydd.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.