Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

marchogaeth

marchogaeth

Profodd y pum niwrnod canlynol yn llawn difyrrwch hyd yr ymylon, a hwythau'n mwynhau nofio, sgi%o dros y dŵr, hwylio, chwarae tennis a marchogaeth ceffylau.

Mi a ddylwn ddweud wrthochi fod llawer hyd yn oed o Ddic-Siôn-Dafyddion cyn y flwyddyn 1890 wedi ymuno â chymdeithasau Cymreig o fath Kumree Fidd... yr oeddenw, er mwyn ennill cyhoeddusrwydd, ac er mwyn marchogaeth ar y teimlad Cymreig i bwyllgorau, i gynghorau, ac i'r Senedd, yn ymostwng i ddibennu pob araith trwy ddywedyd mewn Cymraeg go ddyalladwy 'Oes y byd i'r iaith Gymraeg'. Ond dyna'r cwbl.

Am y gorau bob gafael isio marchogaeth yr awyr ar ei gefn.

Rhuthrais innau i mewn gyda'r cyntaf a dangosais i fechgyn y Cei fy mod o leiaf yn gallu marchogaeth ceffyl a hynny nid yn eistedd ond yn sefyll ar ei gefn.

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

Fe gofiwch i David Phillips, Waun-lwyd, ddwyn offer marchogaeth a dillad tra'n gweithio ym mhlas Cilwendeg, a threuliodd flwyddyn o lafur caled yn gweithio'r felin droed yng ngharchar Hwlffordd am ei drosedd.

Pysgota, hela a marchogaeth oedd pethau Lludd.

I fynd lawr i'r dre bu hi'n marchogaeth y tu ôl i Rowland hyd yma, ond heno roedd y ffrog felfed las o dan ei chlogyn merino yn rhy gwmpasog iddi fedru rhannu ceffyl â'i gūr yn gyffyrddus.

(Yn wir, ceisiwyd cyflawni'r un gamp yn ystod gwers symiau ar fore Llun ambell dro!) Clywsom am ei gampau anhygoel yn nofio afonydd, yn dal llama ac yn marchogaeth merlod y paith.

Byddai'n eu marchogaeth ar hyd y caeau yn gwbl ddi-gyfrwy, a hynny'n amlach na pheidoio tra'n sefyll ar ei draed ar gefn y ferlen yn union fel dyn syrcas gan chwyrlio lasso ar yr un pryd.

Trodd y Cyrnol a galwodd ar i un o'i is- gapteiniaid beri i'r ddau ffariar brysuro; yna aeth yn ei ol at yr heol fawr ac ailddechrau marchogaeth 'nol a blaen yn aflonydd.

I'r dwyrain y bu'n syllu gan ddyheu am weld rhywrai yn marchogaeth dros y twyn o Gwm Taf.

Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.