Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

marddoniaeth

marddoniaeth

Digwyddodd yr un peth ym marddoniaeth cenhedloedd eraill.

Ond prin y ceir dim byd cyffelyb i hyn ym marddoniaeth y cyfnod.

Bu llawer o ddyfalu pwy oedd yr Arwr yn yr awdl, a phwy oedd 'Merch y Drycinoedd'. Yr oedd yr ateb i'w gael ym marddoniaeth Shelley, hoff fardd Hedd Wyn.

Pa wedd bynnag am hynny, yr oedd rahid i bawb deallus gydnabod nad oedd Dafydd ap Gwilym yn sui generis yn llenyddiaeth Ewrop, hyd yn oed os oedd yn ymddangos fellyn yn llenyddiaeth Cymru, ond fel yr oeddid yn dod yn fwy hysbys yn llenyddiaeth y cyfnod a flaenorodd ei gyfnod ef, deuai'n fwyfwy tebygol fod rhai o wreiddiau barddoniaeth serch a barddoniaeth natur Dafydd ym marddoniaeth ei flaenorwyr, sef ym marddoniaeth y Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion, ac y gallai fod y dylanwadau cyfandirol y mae'n bosibl dadlau eu bod i'w gweld yng ngwaith Dafydd, mwen gwirionedd, yn rhai a effeithiodd ar farddoniaeth ei flaenorwyr.

Serch hynny, nid yw Marwnad Siôn y Glyn yn unigryw ym marddoniaeth Gymraeg y cyfnod.

Ar wastad arall, ni allai hyn oll beidio a'i amlygu ei hun ym marddoniaeth Waldo : mae ei syniadau wedi eu llwytho a'r amalgam hwn o feddwl a theimlad, ac nid yw'n syn fod ei eiriau wedi eu llwytho yn yr un modd hefyd.

Yr oedd holl wareiddiad a diwylliant Ewrop mewn perygl enbyd, meddai, ac eto prin y mae eco o'r holl broblemau hyn ym marddoniaeth gyfoes Cymru.

Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.