Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

maredudd

maredudd

Wrth drafod y 'fortune and force of necessitie' yn ei gronicl gwelodd Syr John ei gyfle i ychwanegu rhyw gymaint o fri a gwrthydri at yrfa Maredudd yn y modd y bu iddo gryfhau ei afael ar Nanconwy yn fwy parhaol.

Tân ym moliau Gwylliaid a barodd iddo golli Meirionnydd ac Ardudwy a sefydlu tylwyth Llywelyn ap Maredudd yn y mannau hynny...

Oherwydd yr amrywiaeth sydd yn y gwaith bydd yn ddiddorol gweld i ba gyfeiriad y bydd arddangosfa nesaf Maredudd wedi datblygu.

Wrth drafod ei ffawd canfyddir yn yr History adwaith Maredudd i chwilfrydedd ei garennydd pan symudodd i'r cwmwd anghysbell hwnnw.

Heb os nac onibai, prif arwr yr History i Syr John, os gellir synied am arwr o gwbl ynddo, oedd ei hen daid Maredudd ab Ifan ap Robert, sylfaenydd y teulu yn Nanconwy yn ail hanner y bymthegfed ganrif.

Y tu draw i'r cae, ar ben yr allt y mae tŷ, ac er mai yn y pellter y mae, y mae'r sylw a'r manylder yn dal i gael ei roi i'r adeilad o'i gymharu a'r cae â'r ffens yn y blaendir, a hyn eto yn cadarnhau sylwadau Maredudd ei hun mai mewn adeiladau y mae ei ddiddordeb.

Yn yr adran ar addysg Maredudd pwysleisir unwaith eto ragluniaeth Duw yn dapraru'n hael ar ei gyfer ynghanol holl genfigen ei garennydd.

Gellir edrych, ar ryw ystyr, ar yrfa Maredudd yn enghraifft gytbwys o hyn.

Un o gylch yr Oriel ei hun yw Maredudd ab Iestyn.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Dengys Wynn hyn eto wrth drafod dyfodiad Maredudd o Grug gyda'i deulu i Eifionydd a oedd yn llawn anniddigrwydd ac anghydfod tylwythol.

Mae'r nodyn a ganlyn sydd gan Maredudd ab Iestyn ei hun yn y rhaglen yn bwysig ac yn ddadlennol iawn, 'Fel pensaer mae gennyf ddiddordeb mewn ffurfiau adeiladau traddodiadol neu frodorol a'r modd y maent wedi eu gosod yn y tirwedd.