Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

marn

marn

A dyna, yn fy marn i, bennaf camp y Cofiant presennol.

Fy marn i yw mai'r hyn sy'n esbonio amrywiol gyfeiriadau ymchwil y Llyfrau Gleision yw bod y Llywodraeth, a chymryd pethau yn y modd symlaf posibl, yn awyddus i weld sut y gallai hi wella'i gafael ar ymddygiad y Cymry, ond fod Kay-Shuttleworth, ac efallai Symons a Johnson, yn awyddus i ddod o hyd i dystiolaeth ddigamsyniol dros sefydlu cyfundrefn o addysg wladol - ac nid i Gymru'n unig swydd.

Ym marn Kath a Stacey 'roedd Hywel eisiau i Stacey fynd i ffwrdd i'r coleg er mwyn cael llonydd i ddatblygu ei berthynas gyda Rachel.

Wedi llwyddiant ysgubol eu hail albwm International Velvet a chaneuon fel Mulder and Scully, Road Rage a Strange Glue, roedd y cyngerdd hwn yn cael ei gynnal wedi iddynt ryddhau eu trydedd albwm Equally Cursed and Blessed, nad oedd yn fy marn i mor drawiadol ag International Velvet.

Ym marn rhai aelodau o'r Bwrdd ei hun, y broblem oedd fod y newid wedi digwydd yn ddifrifol o gyflym - roedd hi'n ymddangos ar y dechrau fod hyd yn oed fudiadau fel Merched y Wawr yn cael eu gwrthod.

Yn fy marn i, diogelach yw gadael pethau fel y maent.

Ym marn y Pwyllgor y mae'r bwriadau yn ddarniog ac yn aneglur.

'Y golau' yma, wrth gwrs, yw golau neu wreichionen yr Anfeidrol mewn cyd-ddyn ac fel y ceir gweld, nid oedd ym marn Waldo ddawn werthfawrocach na'r ddawn i weld hon.

Yn fy marn i, ffolineb yw cymharK Waldo ag unrhyw un,

Yn ystod y blynddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae anifeiliaid wedi cael eu lladd am resymau sydd yn hollol annerbyniol ym marn mudiadau fel Greenpeace.

Yn fy marn i, mae dau reswm fod y clefyd wedi cael cymaint o afael mewn cyfnod pan rydd gwyddoniaeth fesurau mor effeithiol i reoli afiechydon.

Ym marn Lingen, o gofio'r awyrgylch a'r amgylchiadau y treuliai merched ifanc Cymru eu mebyd ynddynt, yn lle rhyfeddu at yr hyn y dywedai pobl amdanynt, dylasent sylweddoli y buasai'n syndod petaent heb fod felly.

Dyna oedd fy marn innau hefyd (er gwaethaf dyfarniad Bae Colwyn): nid oes sôn o gwbl yn y Deddfau Cysylltiadau Hiliol am 'iaith'.

fy marn i yw i terry yorath a peter shreeves wneud gwaith da ac y dylent, felly, gael dal ati.

Gorau oll, yn fy marn i, oherwydd ni fwriadwyd inni fedru trin a thrafod y Bydysawd drwyddo draw, ond yn hytrach ryfeddu a ryfeddu at ei holl ogoniant a'i ryfedd ffyrdd.

Ond doedd Marn ddim yn barod i fentro rhag ofn mai rhyw garafa/ n fyddai'i chartref newydd!

Ambell dro, digwyddai fod rhywun o wyr cyhoeddus y Rhos heb siarad mor barchus am yr Herald ag y teilyngai, ym marn y golygydd, a gwae y creadur hwnnw, yr oedd llach y golygydd arno.

Yn anghywir, yn fy marn i.

Ym marn Zola doedd yr aberth ddim yn werth chweil!

Os byddai'r adeilad yn wych a phobl bwysig yn byw ynddo pwysig yn ein barn ni cofiwch, nid o reidrwydd yn marn pobl eraill fe fyddem yn canu'r emyn a ganlyn: 'Odlau tyner engyl O'r ffurfafen glir Mwyn furmuron cariad Hidlant dros y tir' hyd ddiwedd y pennill cynta'.

Bydd yn rhaid iddo ef faddau i mi am ddweud i ni ei achub o fod yn ddim byd ond bardd, neu'n brifardd, i fod yn awdur llyfrau plant, sydd yn bwysicach o dipyn yn fy marn i!

Mwy trist na thristwch yn fy marn i yw colli cyswllt a iaith y gwyddoch mai hi yw eich priod iaith.

Ym marn Chomsky, nid disgrifio'r hyn sydd eisoes wedi ei lefaru yw unig swydd gramadeg ond hefyd roi cyfrif am yr hyn y gellir ei lefaru - ei genhedlu - yn y dyfodol.

Yn fy marn i mae'n bwysig bod y rhai euog, os y bydd achos, yn cael eu cosbi'n llym a digyfaddawd.

Yn fy marn i, Saunders Lewis oedd yn iawn.

Yn amlwg 'roedd hyn yn siom enfawr i'r mwyafrif, yn enwedig o ystyried nad yw'r caneuon newydd wedi cael eu perfformio rhyw lawer - ond mae yna fai ar y ddwy ochr yn fy marn i.

Ym marn yr adolygydd, gwendid dramatig oedd diriaethu syniadau o'r fath ar lwyfan yng Nghymru: 'Y mae eisiau llawer mwy o berswad nag a geir yma ar unrhyw gynulleidfa o wrandawyr fod rhinwedd yn y balchder aristocrataidd.' Proffwydodd, er hynny, fod y ddrama yn dynodi 'cam yn nhyfiant meddwl anghyffredin iawn, fel y caiff Cymru weled eto.' Yr oed y pegynnu rhwng Gruffydd a Lewis yn amlwg.

Peth digon masochistaidd i'w wneud yn fy marn i: rydw i'n gochyn ac yn llosgi'n hawdd pan fydd yr haul yn danbaid.

Yn fy marn i y mae Cymdeithas yr Iaith yn dechrau cychwyn hynny.

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.

Fel arfer, sôn y byddaf am y Gyfraith fel y mae, ac nid am y Gyfraith fel y dylai (yn fy marn i) fod.

Mae'n dweud rhywbeth am yr ugeinfed ganrif ac am ei phobol i'r cymeriad cartwn dysfunctional hwn achub y blaen ar Nelson Mandela a'r Fam Teresa - ond yn waeth na hynny, yn fy marn i, Marilyn Monroe ei hun.

I ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi un o'r nofelau difyrraf i ymddangos yn Gymraeg ym marn llawer, y penderfynais addasu O Law i Law ar gyfer cynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith eleni.

BRENHINES Y DYFFRYN Yn fy marn i brenhines Dyffryn Clwyd yw Rhuthun, y ddinas goch godwyd ar y bryn.

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o gyrff sydd, ym marn y Bwrdd, â rhan allweddol i'w chwarae mewn datblygu sefyllfa a statws y Gymraeg.

Ym marn Dr Jones 'ymadrodd cyffredinol' yw 'cariad at chwaer oedd yn Harri Tomos', tebyg i 'cariad mam at fab' ...

Roedd gwneud hynny yn hollol saff yn fy marn i ar y pryd, oherwydd fy mod wedi archwilio nifer o gleifion a oedd yn dioddef o'r Eryrod ar hyd y blynyddoedd heb i mi ei gael.

Dydw i ddim yn meddwl fod y ffaith fy mod i'n Gristion ymroddedig yn effeithio ar fy marn i achos mae'n rhaid sylweddoli mai un co/ g mewn peiriant ydw i.

Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.