Ond datgymalwyd yr hen ymerodraeth ac etholwyd Masaryk yn Arlywydd gwladwriaeth newydd
Yr oedd Masaryk wedi llwyddo, Casement wedi methu.
Nid, sylwer, polisi Casement a Masaryk, nid y polisi a awgrymid gan yr hen slogan Wyddelig, "...", nid cefnogi gelynion Lloegr, na hyd yn oed eu defnyddio er mwyn gwanhau Lloegr.
Gweithiodd Masaryk i chwalu'r Ymerodraeth Awstria-Hwngaraidd, a oedd yn cynnwys ei genedl ef, cenedl y Tsieciaid, a ffurfiodd fyddin o'r carcharorion Tsiecaidd a oedd wedi eu cymryd i gaethiwed gan y Rwsiaid.
Pe bai diwedd y rhyfel wedi bod yn wahanol, gallai Masaryk fod wedi diweddu ei oes ar y crocbren a Casement, pe bai wedi dianc, yn arlywydd ar Iwerddon unedig rydd.