Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mebyd

mebyd

Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir.

Un nos Sul, a minnau erbyn hynny wedi symud o'r fro a chartrefu yn ardal Dinmael, daeth neges teliffon yn gofyn imi frysio adre i fro fy mebyd am fod Mam yn ddifrifol wael.

Mewn ardal chwarelyddol yr oedd y ddôl honno hithau (Dôl Pebin y Mabinogion) sef ardal mebyd y bardd, Tal-y-sarn.

Wedi'r holl dreialon, y morloi, llamyddion, rhwydi, creyr glas, a glas y dorlan yn nyddiau mebyd potsiars a gwenyn Cymag - mae dy rawd wedi ei redeg, a rhaid i eraill fynd dros grych pwll y bont eleni.

Beth bynnag yw rhinweddau ardaloedd, a gwledydd eraill y byd, gallaf innau dystio fod bro fy mebyd a'i llechweddau yn 'myned o hyd yn fwy annwyl im'.

Ym marn Lingen, o gofio'r awyrgylch a'r amgylchiadau y treuliai merched ifanc Cymru eu mebyd ynddynt, yn lle rhyfeddu at yr hyn y dywedai pobl amdanynt, dylasent sylweddoli y buasai'n syndod petaent heb fod felly.

Fe'm maged innau ar fferm Yr Hafod, yn ardal Ty Nant, bro mebyd David Ellis yntau.

Cwynfan Serb yng ngwres ei glefyd, Pell y wawr a'r nos yn hir, Hiraeth bron am wynfyd mebyd Hwnt i gaerau Monastir.

Cofia hwiangerddi'r fam 'Ymhabell wen fy mebyd' a gwres 'Aelwyd fach anwyliaid fu/ At un tân, gynt yn tynnu!' Dychwelyd o'i grwydro a chael yr hen le yn furddun ger y môr a' i gyrrodd, o'r diwedd, i'r wlad bell lle ailgyfannir yr aelwyd gynt gan atgofion a dychmygion.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.