Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

medden

medden

Mi ellid fod wedi gwario'r arian ar addysg, iechyd a'r amgylchedd, medden nhw.

Pan ymwelodd Mrs Thatcher a Rwsia fe groesawodd Mr Brezhnev hi, medden nhw, drwy ddarllen yn llafurus y brawddegau a oedd wedi eu rhoi ar bapur ar ei gyfer.

Bid siŵr, buasai'r cyfryw briodoleddau yn fwy trychinebus i ferch efallai, medden nhw; ond hyd yn oed yn achos gwryw, nid ellid dychmygu ei fod ef yn debyg o ennill serch naturiol yr un gymhares addawol.

Mae chwerthin yn beth heintus, medden nhw.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Pwysi ar bwysi o aur, medden nhw.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Yn rhinwedd ei swydd aruchel fe aeth i ymweld a ffatri ym Moscow un tro, medden nhw, ond fe'i synnwyd ac fe'i siomwyd yn arw oherwydd fod y gweithlu mor ddiystyriol ohono.

Mae'n ffaith, medden nhw, fod dynion yn llawer mwy tebygol o ddioddef o'r salwch na merched.

Roedd Cwmglo, medden nhw, yn ddrama ardderchog o ran creffl ond yn ycha-fi yn foesol.

Doedd Ynot yn neb mewn gwirionedd, ond rywfodd fe lwyddodd i briodi Arabrab, chwaer Navid y Frenhines - am ei harian, medden' hw, o achos roedd hi'n hyll fel pechod.

Ychydig filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Vilnius, medden nhw, y mae canol daearyddol Ewrop; er bod gorwelion y llygad yr un peth, mae gwybodaeth fel yna yn newid ffrâm y meddwl.

Mae o gystal â ffisig, medden nhw, ond fe all fod yn wermod hefyd.

Yn achos Ysgolion Uwchradd (Y Llyffant) yr oedd pawb wedi gweld y deunydd, medden nhw, ond yr oedd cryn ddryswch yngln â pha ddeunydd yn union oedd dan sylw; cafwyd un yn holi Buom yn trafod "Pobol Y Cwm"...

Bod yn ofalus, yn ddoeth, ac yn ddiplomyddol, dyna aeth â mi i uchelfannau'r Gwasanaeth Sifil, mae'n debyg; hynny a chryn dipyn o allu ymenyddol, medden nhw.

Yr oedd Miss Lloyd yn asiant, medden nhw, i ryw gwmni a elwid yn Copper Trust, a oedd a'r amcan o ail-agor y gwaith copr yn yr ardal.