Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddiant

meddiant

Mi wnaethon nhw ildio'r meddiant yng nghanol y cae, lloriodd y golwr Jason Jones Stepan Molokutsko a sgoriodd Molokutsko o'r smotyn.

Cesglir hyn yn ôl tystiolaeth ddaearegol sydd yn awr ym meddiant y seryddwyr mai cyfres o lifeiriannau iâ anferth ynghyd â llifogydd anrhaethol fawr o ddŵr sydd wedi llunio neu foldio siâp arwyneb y blaned.

safonau cyrhaeddiad - gan gynnwys cwmpas gwybodaeth y disgyblion am y pwnc a'u gallu i gymhwyso'r wybodaeth hon i sefyllfaoedd newydd; maint eu dealltwriaeth a'u meddiant o sgiliau; eu canlyniadau yn asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mewn arholiadau cyhoeddus.

Ceisiodd feddiannu maenor Llandygwydd a oedd ym meddiant Robert Birt fel tenant.

Ond mae Hywel yn caru Rhys a llwyddodd i gael meddiant ohono yn y diwedd ar ôl i Nia fod mewn damwain erchyll.

'Rwy'n sicr na wnaeth y Creawdwr ystyried digon am wendidau ei ddynolryw ynglŷn â meddiant a thrachwant a phwer.

Yn ei berson ef gwelai Collingwood ymgais ar ran y brenhinoedd hynny i atgyfodi swydd y Comes Britanniarum, a fuasai'n bwysig yng nghyfnod y meddiant Rhufeinig ar Brydain.

Er bod trigolion tiroedd y meddiant hefyd yn ofni canlyniadau'r rhyfel, fe'u calonogwyd gan y posibiliadau.

Ond wedyn, o sylweddoli fod y fath newyddion da yn eu meddiant, yn ôl i'r ddinas yr aethant.

Mae hyn yn arwain at yr ail fesur a gynigiwyd gan Gomisiwn y Gyfraith sef eu hadroddiad, 'Trais yn y Cartref a Meddiant y Cartref Teuluol, adolygiad o'r gwahanol ddeddfwriaeth bresennol sy'n cynnig meddyginiaethau sifil yn erbyn trais yn y cartref.

Yn bennaf hormonau oedd yn dal ym meddiant ffermwyr cyn y gwaharddiad oedd y rhain, ond yn ogystal clywyd bod marchnad ddu yn cyflenwi'r angen.

ARGYMHELLWYD fod llythyr i'w anfon at y tenant yn ei rybuddio i wella ei ymddygiad rhagblaen neu byddai'r Cyngor yn gweithredu o fewn y rheolau tenantiaeth a cheisio meddiant o'r eiddo.

Maen nhw'n chwaraen llawn hyder ac yn defnyddiou cryfder yn chwaraer bêl ar hyd y llawr a chadwr meddiant yn dda iawn.

Methu troi meddiant yn bwyntiau am fod y chwaraewyr yn rhy hunanol oedd cwyn Geraint John o dîm hyfforddi carfan Cymru.

Mewn ymgais i atal y Palestiniaid rhag manteisio ar gyfnod o ryfel i greu rhagor o helynt, cafodd pawb ar diroedd y meddiant eu cyfyngu i'w cartrefi am bedair awr ar hugain y dydd, am ddyddiau ar y tro.

Dangosodd wyth Llanelli y gallent hwythau hefyd hyrddio'n effeithiol ar ôl sgrym, ac ennill ryc, a defnyddio'r meddiant pan ddaeth Luc Evans i mewn i roi pas wych i Andrew Morgan, yr asgellwr de, a chwaraeodd yn lle Ieuan Evans anafus.

'Ymadaw' a wnaeth un fam fonheddig ar ei marwolaeth, meddid, 'niwedd meddiant, â'i phlas a bendith ei phlant'.

Protestiadau yn erbyn y profion meddiant a deddf diweithdra: 250,000 yn mynychu ralïau ar draws De Cymru ac yn Blaina, Gwent, 18 yn cael eu carcharu am greu cyffro.

Dau aelod o Fyddin Rhyddid Cymru yn marw mewn ffrwydrad yn Abergele, a chwech arall gerbron y llys yn Abertawe am fod ag arfau yn eu meddiant; dau o'r rhain yn cael eu carcharu.

mewn ffyniant fel meddiant mawr, bo gras ag urddas ....' .

Unwaith eto yn y gêm hon fe welwn ni Romanian cadw meddiant a phan ydych chi'n chwara yn erbyn tîm fel hwn maen nhw'n rheolir gêm.

Ond gydag edrychiad braidd yn ddoethach nag arfer, ac fel pe bai'n gwybod fod gennym baced yn ein meddiant, fe'n gwahoddodd i gymryd smôc !

Diolch i'r intifada, hyd yn oed cyn Rhyfel y Gwlff roedd bywyd yn ddigon anodd ar diroedd y meddiant; bellach, roedd y tensiwn yn waeth o lawer.