Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddwi

meddwi

Neu'r troeon hynny y byddai hi'n meddwi'n ddireol a chymryd pob cyfle i ffraeo gyda ni, ein galw ni'n bethau ofnadwy, a'n cyhuddo ni o bob erchylltra.

Yn debyg i hogie Cwmaman, mae'r geiriaun adlewyrchu bywyd clostroffobig mewn tref fach - merched yn yfed gormod er mwyn canu karaoke, a Jonny Pritch yn meddwi, cael ffeit yn y siop kebab ac yn cael crasfa gan y Mrs am fynd adre efo lovebites.

Disgrifiodd ei hun fel 'meddwyn gwaeth nag erioed' erbyn hyn--câi ei gyflog gan y porthmon wedi cyrraedd pen y daith, a byddai'n meddwi, yn cadw cwmni drwg a bron bob tro byddai'n deffro a chanfod bod ei bres wedi'u dwyn.

Am gerddad dros gar pan oeddwn i wedi meddwi y ces i hi gynta,' meddai un o'r myfyrwyr yn gysurlon.

Mae pawb yn gwybod yn iawn pryd i stopio yfed - does byth ddim meddwi yn y Wladfa.

Bu yn Affrica a De America, a bob tro y cai gyfle byddai'n meddwi, yn puteinio ac yn cael ei hun mewn rhyw drybini a fyddai fel rheol yn golygu ei fod yn cael ei fflangellu.

Ymladdodd y ddwy ddraig, yfed y medd, meddwi a chael eu lapio yn y sidan.

Yn y diwedd, er gwaethaf swildod, datgorciwyd fy mhotel benedictine, a llifodd ar hyd ac ar led, y licar yn un ffiz o gwestiynau tebyg i'r rhai oedd wedi fy meddwi ar galeri Capel Seilo.

ond mae'r cythreuliaid yn falch bod ambell arfer hynafol fel meddwi a charu-yn-y-gwely wedi goroesi, yn nannedd Ymneilltuaeth.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd agweddau tebyg i'w gweld gyda gwaith dramatig llawer llai pwysig - fe brotestiodd Cymry Cymraeg yn chwyrn ar ôl i'r ffilm Smithfield awgrymu fod Ffermwyr Ifanc ac eraill yn meddwi a mercheta yn ystod eu taith i Lundain.

Peidiwch â meddwi rwan.