Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddwon

meddwon

Ai plant yntai meddwon sydd yn euog o hyn?

Doedd y ffaith fod pobl yn mynychu capel ac yn gwisgo'n barchus ac yn siarad yn neis ddim yn meddwl nad oedden nhw ddim yn medru ymddwyn yr un mor sglyfaethus â'r pethau meddwon rheiny fyddai'n taflyd if yny hyd bob man ar eu ffordd adref o barti.

Doedd dim byd newydd yn y stori; roedd Lloyd wedi clywed ei thebyg, a'i gwell, droeon o'r blaen, a gan mai ychydig o destun sbort a welai ef mewn ymddygiad meddwon, beth bynnag, roedd wedi hen golli diddordeb ynddi.

Gorfod delio â mân droseddwyr fel meddwon Nos Galan a'i hysgogodd i wneud cais i'w drosglwyddo i'r CID yn y lle cyntaf, ond dyma fe ar y bore gwyn hwn yn gorfod gwrando ar ragor o'u hanturiaethau.

Ond roedd Rondol a'i gwrw mor bwysig i Pitar Wilias pan fyddai'n areithio ar ddirwest ag oedd y diafol i John Elias pan roddodd y meddwon ar werth yn Sasiwn Caergybi.