Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddyg

meddyg

Trwy ysbryd glân ei Feistr Mawr yr oedd cyffyrddiad y meddyg enaid yn perthyn iddo!

Mae ef yn argymell yn gryf y dylid rhoi cyflog penodedig i bob meddyg sy'n gweithio mewn ysbyty ac felly osgoi'r demtasiwn i 'or-drin' ei gleifion.

Sied bach yng nghefn y tŷ oedd surgery'r meddyg.

.' (neu 'ffisig coch', 'ffisig gwyrdd' neu 'ffisig du', yn ôl y galw.) Un gaeaf pan oeddwn yn llanc, o fethu â chael gwared â pheswch go gyndyn, nid oedd dim amdani ond galw yn Llys Meddyg i ddweud fy nghwyn.

Teitl y Iyfr yw MEDDYG

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddogion perthnasol, i benderfynu ar geisiadau am gael gweithio rhan-amser mewn achosion lle bo Meddyg y Cyngor yn cefnogi'r cais - ac yna i adrodd er gwybodaeth i'r Is-bwyllgor Staff.

Roedden ni wedi clywed llawer o straeon rhyfedd am y meddyg yma, ac fel y byddai'n chwarae triciau ar y patients er mwyn cael tipyn o sbort.

Yn ôl tystiolaeth un meddyg y bu+m i'n siarad â hi, roedd rhai mamau wedi anobeithio ac wedi troi cyrn gyddfau'u plant er mwyn arbed eu maeth a'u nerth eu hunain.

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Meddyg gwyn, yn siarad Cymraeg, a chyda blynyddoedd o brofiad yn ei swydd, a ddywedodd mewn ffordd ddifeddwl ac angharedig wrth wraig ifanc fod ganddi hi ganser ai gollwng wedyn yn syth yn ôl i ward i ganol cleifion eraill.

Yn eu plith yr oedd Lewis Gwynne |Thomas o Lanbrynmair, rheolwr banc; William Green, argraffydd; Josiah Jenkins, Colomendy, meddyg; Sarah Anne Evans oedd yn rhredeg Ysgol Breifat i Ferched yn y Manor House.

Ond daliai'r meddyg i ddweud, "Peidiwch â magu dim ffydd", felly yn y cefndir yr oedd yr ofn a'r pryder yn parhau.

Of nai'r meddyg y byddai'n rhaid torri'r droed i ffwrdd gan mor enbyd oedd ei chyflwr, ond yr oedd Phil yn gyndyn iawn i gytuno â hynny.

Ac roedd meddyg yn galw deirgwaith yr wythnos.

Roedd un o ohebwyr ITN yn amlwg wedi ei ysgwyd pan ddywedodd mewn darn i gamera ei fod yn edifarhau ei fod yn newyddiadurwr yn hytrach na meddyg!

Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.

Y peth gorau bob tro yw cysylltu â'r meddyg yn ddigon buan.

Ceisiadau am gael gweithio rhan-amser (gyda chefnogaeth Meddyg y Cyngor)

'Roedd Peter, y meddyg, wedi bod sawl tro yn y gwledydd comiwnyddol.

Os ydych yn feichiog, peidiwch a mynd ar ddiet heb gael cyngor gan eich meddyg.

Os felly, nid y meddyg Jenner oedd y cyntaf i ddefnyddio'r amddiffyniad, ond ef oedd y cyntaf i'w ddisgrifio a'i asesu.

Erbyn y cwpled olaf mae'r "minteioedd mawr" wedi troi'n unigolion claf ym mhresenoldeb y Meddyg, a ninnau yn eu plith.

Myn coblyn," meddai'r meddyg Americanaidd, mae Dr Livingstone wedi cyrraedd, hogiau." O'r crwyn blewog daeth llaw mewn maneg felen.

A wedyn dwad yn ôl i'r cnebrwng.' Yn ei ffordd ryfedd ei hunan, roedd y meddyg wedi cyhoeddi'r ddedfryd derfynol ar gyflwr Mam.

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

.' Toc, fe beidiodd y sisialu rhyfedd o'r tu ôl, ac wele'r meddyg a'i stethosgop yn ochrgamu gan ymddangos o'r tu blaen imi.

"Wrth gwrs,' meddwn, 'os arhoswch chi i'r meddyg gael golwg arna i, ac yna i mi newid i ddillad sych.'

Canllaw i golli pwysau'n llwyddiannus Ymgynhorwch a'ch meddyg cyn dechrau'ch diet os ydych yn cymryd unrhyw fath o feddyginiaeth neu os ydych yn dioddef o unrhyw gyflwr meddygol.

Pan ddaw dyn i gydnabod ei archollion ei hun ac i adnabod Crist fel Meddyg, fe'i gwneir yn un â Christ.

Hefyd y ffaith fod y meddyg wedi rhybuddio na ddylai Pengwern gysgu ar ei ben ei hun rhag ofn iddo gael trawiad ar y galon.

Ond cofier nad yw'r meddyg ei hun yn ddiogel rhag y dolur.

Doedd dim ôl beirniadaeth ar eglurhad y meddyg ifanc: `Ond mae'n iawn i bobl gael gwybod', meddai.

Drwy ddefnyddio y corn siarad gellid cael ymgom efo'r meddyg ac yntau yn ei wely!

Mae yna rai sy'n gweld eu meddyg teulu mor anamal fel eu bod nhw wedi anghofio'i enw.

Pan daeth y meddyg ataf - merch - i roi'r rheswm am ei farwolaeth gofynnodd yn annwyl a oedd gennyf rywbeth arbennig y buaswn yn hoffi ei roi amdano.

Bydd y meddyg yn nodi presenoldeb, neu ddyfodiad, gwendid y galon neu'r pen (strôc), haint yr ysgyfaint, annormaledd y cefndedyn ...

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Y claf cyntaf, Louis Washkansky, yn derbyn calon newydd mewn triniaeth gan y meddyg o De Affrica, Dr Christian Barnard.

.' Yn y man, euthum i ddanfon y meddyg at ei gerbyd.

`Ogof does neb yn dod ohoni'n fyw - mae'n rhaid fod rhywbeth sy'n werth ei ddarganfod yno.' `Mae hyd yn oed rhywun fel fi wedi clywed am y lle hwn,' meddai'r meddyg.

Wedi inni fod yn gweithio yn y chwarel am ryw bythefnos, cawsom orchymyn i ymweld â meddyg am archwiliad, ond nid ein meddyg ein hunain.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi mewn poen, fe allwch arbed oriau o aros yn lle'r meddyg drwy eistedd i lawr a chael sbloet iawn o grio.

Ysgrifennent lythyrau caru at ei gilydd; edrychai rhai carcharorion yn gariadus ar y bechgyn Borstal a gwyddai meddyg y carchar am y poenydio ar gnawd a'r dirdynnu ar gyrff.

Soniai am y ganmoliaeth a gafodd gan y meddyg lleol ar ôl ymarfer cymorth cyntaf pan dorrodd fy mrawd hynaf ei fraich wrth gwympo ar y 'patshyn'.

Ar nifer o'r mordeithiau hynny, os digwyddai anhap neu salwch i un o'r teithwyr, Doctor Jones, yn rhinwedd ei swydd, fyddai meddyg swyddogol y llong.

Wedi tymor dyfal o weini ar blant gofidiau, bydded bendith ar aelwyd y meddyg mwyn yng nghyfnod yr hamdden a haedda.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

Ymddengys mai bwriad diweddaraf y llywodraeth yw ei gwneud hi'n anos inni gael meddyg ganol nos.

"Mi rydw i wedi cael strôc," sibrydodd yn wan yng nghlust Rex, "ac os na allaf fynd adref i le cynnes, a chael meddyg, mi fyddaf yn farw'n fuan.

Yn ôl Dafydd Roberts, meddyg yn Ysbyty Singleton, Abertawe: Mae gormod o bobol yn marw o'r afiechyd yma ond ddylai neb farw gan ei fod ar y croen.

Parodd hyn lawer o syndod i'r meddyg ei hun gan nad oedd yn ymwybodol o'r ffaith iddo fod yn or-frwdfrydig o blaid, ac yn 'gwthio', tonsilectomiau.

`Rydych chi'n wallgof,' meddai'r meddyg.

Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.

Dau weinidog, un meddyg, ac un myfyriwr.

'Meddyg?' Roedd wedi dychryn.

Meddai'r meddyg: '...

Yn y chwe-degau, â'r Arlywydd Kennedy yn diodda anhwylder i'w gefn, trefnodd y meddyg iddo fynd i nofio'n gyson.

"Rhaid," sylwodd meddyg arall.

'Roedd y meddyg wedi bod sawl tro o'r blaen, ac ef oedd ein cyswllt.

Roedd yn y meddyg hefyd ffrwd hynod o hiwmor.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.

'Cyfaill yr iau' y gelwid sicori gan Galen, y meddyg Groegaidd o'r ail ganrif OC Yn ôl coel gwlad ar hyd y canrifoedd yr oedd sicori'n medru glanhau'r corff o wenwyn.