Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddyginiaeth

meddyginiaeth

Trwy'r canrifoedd mae coed, eu dail a'u ffrwyth wedi cynnig meddyginiaeth i ddyn ac anifail.

Ond erbyn heddiw, 'rydym yn gwybod fod meddyginiaeth hen ffermwyr Swydd Efrog yn gwneud synnwyr.

Mae hyn yn arwain i'r syniad mai adaptogen yw ginseng, sef meddyginiaeth sy'n cynyddu gallu'r corff i addasu ac yn gweithio yn unig pan fo angen.

"Ma' meddyginiaeth yn 'i ddail, mi wyddost," rhybuddiodd, "a fedrwn ni ddim fforddio bod hebddo.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.