'Cynnwys meddyliau, croesawu ysbrydoedd, ymwthio, saethu, perchi ystlumod, ymlid gwynt, porthi cnawd, turio am oferedd', ac elfen drosiadol gref iddynt yn ogystal.
Ar wastatir esmwythdra buasai tryblith meddyliau Morgan Llwyd yn aflawenydd.
Wrth geisio hel meddyliau at ei gilydd er mwyn dweud rhywbeth ar y testun uchod cofiais fod gan fy hen Athro, y diweddar Dr W J Gruffydd, lith finiog ar yr un testun yn un o rifynnau cynnar Y LLenor.
A'r dyrnodau wedi dileu'r meddyliau a'r atgofion rhyfedd.
Mae ei hangen arno i fynegi ei anghenion a'i ddyheadau, ei brofiadau, ei deimladau a'i freuddwydion ac yn sgîl hynny fe ddaw yn gyfrwng i rannu'r meddyliau hynny.
Beth bynnag arall oedd ym meddyliau'r seneddwyr wrth basio deddfau o'r fath, y mae'n amlwg eu bod am ysbeilio'r Gymraeg a'r Wyddeleg o unrhyw statws cyfreithiol ac i wrthod unrhyw le iddynt ym mywyd gwleidyddol Cymru ac Iwerddon.
Wrth gloi'r ysgrif ddadlennol hon, meddai, fel pe mewn syndod am gân Jane Simpson-"Meddyliau-rnerch bedair ar bymtheg oed".
Gwaith cwbl amhosibl i unrhyw un, wrth reswm, yw cyfundrefnu dylanwad meddyliau un gŵr ar ŵr arall, ond gellir dweud cymaint â hyn am lyfr Murry.
Trwy hynny fe droir meddyliau unigolyn yn feddyliau cymdeithas, ac oherwydd y cyfoeth sydd felly'n cronni ynddo bydd y meddwl cymdeithasol hwnnw yn rhoi maeth a golud i feddyliau'r unigolion sy'n cyfrannu iddo ac yn rhoi ehangder a dyfnder iddynt.
Ond go brin y byddent wedi bod mor dawel eu meddyliau pe gwyddent bod gwyliwr distaw yng nghysgod y ddraenen ddu, heb fod ymhell o'r llidiart ach, wedi eu gweld ac wedi clywed llawer o'r hyn a ddywedent.
Nid yw baby a kid yng ngeirfa Paul Greta, Lisabeth, na Harri; mae golygfeydd y sgrin fawr yn o bell o'u meddyliau hwy.
Ymdrechodd i roi trefn ar ei meddyliau a methu.
Ar yr un pryd, ymbiliwn arnat oleuo meddyliau a chydwybodau arweinwyr y cenhedloedd i anelu at amgenach cyfiawnder wrth drafod cynnyrch y ddaear er mwyn lleihau newyn ac angen.
Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.
Yn 'Penyd' cawn fynd i mewn i ymennydd gwraig wallgof, a dilyn ei meddyliau yn yr ysbyty meddwl am un diwrnod cyfan o'i bywyd.
Yn wir, yr oedd gyda nifer ohonon ni luniau yn ein meddyliau o dreulio penwythnos mewn rhyw hen hongliad o adeilad oer a gwag, di-gysur a diarffordd.
Yn wir, crewyd rhyw fath o rwystr seicolegol ym meddyliau'r di-Gymraeg a'u llesteiriai rhag ceisio gwneud unrhyw ymdrech i ddysgu dim o'r iaith.
Fel yna y rhedai meddyliau Wiliam, a'r trên yn symud yn araf, gan chwythu fel dyn yn mynd i fyny gallt.
casgliad hwn a roddodd i Schneider ei ddyfyniad enwocaf: 'Bydd gwaredu'r mur yn ein meddyliau yn cymryd llawer iawn yn hwy nag unrhyw ymdrech i chwalu'r mur gweladwy'.Calon y Dywysoges - H.
Mae Casnewydd yn sâff o'u lle yn Ewrop y tymor nesaf, a bydd eu meddyliau nhw'n troi at rownd derfynol Cwpan y Principality wythnos i ddydd Sul.
Yn union fel yr oedd meddyliau'i fam a'i dad a'i daid hefyd.
Ond, yn ôl Pengwern, yr hyn a ddywedodd oedd: 'Rwyf yn medru mynd i mewn yn well i "gymdeithas ei ddioddefiadau Ef" ar ôl dioddef hyn.' Mor bell oedd y cenhadwr a'r pwyllgor yn Lerpwl oddi wrth ei gilydd yn eu meddyliau bryd hyn!
Ond gwelai Rhian nad oedd ei geiriau'n ei gysuro, ac roedd yn anffodus iawn ei fod o wedi cael cyfle i hel meddyliau dros y Sul.
Ond yr hyn sy'n nodweddu iaith yw ei thuedd, bob amser, i gynrychioli meddyliau'r sawl sy'n ei harfer yn hytrach nag ail adrodd yr hyn a lefarodd person arall.
Yn bendant mae sail i'r peth, pa un ai fydd gêm a buddugoliaeth fel hon yn achosi iddyn nhw newid eu meddyliau ac aros 'mlaen am un tymor arall gawn ni weld.
Onid dyna bwrpas drama, cyfathrebu ag unigolion yn y gynulleidfa - procio eu dychymyg a'u meddyliau?
Sôn a wna'r Athro am eiriau a lefarwyd ychydig cyn hynny gan y diweddar Dr T Gwynn Jones, sef 'nad yr iaith a sieryd pobl sy'n bwysig ond yr hyn a feddyliant: gofalwch am y meddyliau, ac fe ofala'r iaith amdani ei hun.' Yna, meddai'r Athro, 'os goddefir imi gymhwyso'r geiriau mewn enghraifft, y mae'n well ganddo Sais yng Nghymru sy'n meddwl yn iawn na Chymro sy'n meddwl yn gam.' Hawdd credu i'r geiriau trawiadol hyn gael eu camddeall a'u camesbonio gan lawer y pryd hwnnw ac y byddai'n anodd gan nifer heleath o Gymry heddiw ddeall eu gwir arwyddocâd.
Yr wyf yn cofio hefyd rai o'r meddyliau a ddisgrifia.
Roedd meddyliau fel hyn yn dyfod inni'n barhaus ac yr oedd gennym amser iddynt ddyfod gan nad oeddem yn gweithio yn ystod y cyfnod hwn.
Oherwydd nid ar gred y mae eich pwyslais, ond ar gredo; nid ar deimladau a meddyliau personol ond ar fformiwla amhersonol; nid, os mynnwch, ar yr hyn a genfydd dyn ond ar yr hyn a ddywedir wrtho gan ei eglwys.
Fe arhosodd rhai o'r geiriau ar eu meddyliau drwy'r nos hyd y bore.
Pan ddywed rhywun y geiriau "Llên Gwerin", fel arfer, fe aiff ein meddyliau i gyfeiriad ers talwm: daw i gof hen chwedlau, hen ddywediadau a hen gredoau, a teg yw dweud hefyd, yn nhyb y mwyafrif llethol o bobl, mai perthyn i'r gorffennol mae pethau llên gwerin hefyd, sef coblynod, tylwyth teg, cewri ac yn y blaen.
Fodd bynnag, dathlu gwyl ein nawddsant oedd yn flaenaf ym meddyliau criw a ddaeth ynghyd y tu allan i senedd-dy'r wlad am wyth o'r gloch ar fore Mawrth 1 - gryn ddeng awr o'n blaenau ni yng Nghymru.
Mae pobl wedi tueddu i'w cadw mewn adrannau ar wahan yn eu meddyliau, fel petaent yn son am fydoedd gwahanol.
Wrth iddi hel meddyliau fel hyn trodd ei hofn o dipyn i beth yn rhyddhad.
Canolbwyntia ein meddyliau ar ein Harglwydd Iesu Grist, ein Bugail Da, arloeswr a pherffeithydd ein ffydd, canys yn ei haeddiannau Ef y deisyfwn hyn i gyd.
Y canlyniad yw nad oes wahaniaeth ym meddyliau mwyafrif pobl Lloegr rhwng "Prydain" a "Lloegr" - ar wahân, efallai, i'r meysydd chwaraeon lle ceir timau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymgiprys â thimau Lloegr.
Beth am ei dehongli fel alegori rydd, hynny yw fel darlun o gyflwr meddwl sydd yn agored i sawl dehongliad am fod y llun yn taro tant yn ein meddyliau i gyd a bod ein meddyliau i gyd yn wahanol er bod yr ofnau a'r pryderon mawr yr un?
Arafais y car gyferbyn a'r lle, ac eistedd am funud i hel fy meddyliau at ei gilydd.
Roedd hi bob amser yn hel meddyliau wrth fynd fel hyn ar hyd y rhodfa gaeedig i'r fferyllfa.
O bryd i'w gilydd meddiennid Elystan â'r meddyliau rhyfeddaf a 'doedd ryfedd i'r Cripil ddannod iddo mai gwastraff amser oedd ei holl
Er mwyn argraffu rhai o'r arferion a'r meddyliau hyn ar eich meddwl, ni fyddai'n beth drwg petawn yn sôn amdanynt mewn gwrthgyferbyniad i arferion a meddyliau heddiw.
Cofio caredigrwydd, ac amynedd a chefnogaeth a chlosrwydd ac mae'r meddyliau hynny yn aros hyd heddiw.
Ond yr oedd yn Morris- Jones, a dysg y Brifysgol a enillasai'r genedl iddi ei hun, trwythwyd holl lenyddiaeth Cymru â moddau a meddyliau newydd.
Credwn fod angen chwyldroi meddyliau ac arferion yn ogystal ag ailddosbarthu cyfleon a grym o fewn cymdeithas er mwyn troi hyn yn bolisi bwriadol ac yn realiti.
Cyn trafod y daliadau eu hunain, rhaid yn gyntaf arolygu agwedd y Methodistiaid at lenyddiaeth fd y cyfryw, callys y mae a wndo'u hagwedd gryn lawer â'u dull o fynegi'u meddyliau, a chryn lawer hefyd ~ dirnadaeth eu darllenwyr ohonynt.
Mae'n debyg ein bod yn dechrau anobeithio tua'r adeg yma, ond er hynny, 'r oeddem yn sicr fod ein hachos yn un cyfiawn, ac na fyddai dadl addysgol na dadl am gostau yn peri i ni newid ein meddyliau bellach.
Roedd y pâr ifanc wrth gwrs yn llawn galar a thrallod, ond hefyd yn ddigon ymarferol eu meddyliau i sylweddoli fod rhaid cael yr hen fodryb adref iw chladdu, gan wybod am yr holl drafferthion cyfreithiol a swyddogol fyddai hynny yn ei olygu mewn lle fel Sbaen.
Yr oedd yr hen wraig y cefais i'r fraint o'i hadnabod yn siarp a sensitif hyd y diwedd, yn falch ac yn atgofus, yn feistres ar ei theimladau ac ar ei meddyliau.