Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddyliol

meddyliol

Rhoddasai ei ddiffuantrwydd a'i allu meddyliol iddo awdurdod yn yr eglwys na feiddiai ac na ddymunai neb ei amau na'i aflonyddu.

Mae dycnwch meddyliol cyn bwysiced â chaledi corfforol ac mae'r elfen hon fel pe ar goll yng nghyfansoddiad rhai on chwaraewyr presennol.

Efallai nad oedd Wilson Knight yn bwriadu i ni gymhwyso ei frawddegau at eiriau unigol ond mae'n demtasiwn cymryd defnydd Waldo o'r gair 'awen', ac, o ran hynny, y gair 'adnabod' fel enghreifftiau o "words inflated by mind", ac arwain hyn ni i ystyried pa fath o feddwl a oedd gan Waldo, gan gynnwys yn y gair 'meddwl' nid yn unig y meddyliol ond hefyd y teimladol yn ei wneuthuriad.

Arwydd arbennig o'r gweithgarwch meddyliol a nodweddai'r cyfnod ydyw nifer y llyfrau a gyhoeddwyd a nifer y cylchgronau a gychwynnwyd.

Dyma'u safle meddyliol.

Gan fod Waunfawr, pentref genedigol Gwynn Davies, eisoes wedi bod yn gefn mawr i'r Gymdeithas, awgrymwyd y byddai'r pentref yn le addas ar gyfer menter a fyddai'n rhoi cyfle i bobol â nam meddyliol i ddatblygu fel unigolion ac a fyddai, hefyd, o fudd i'r pentref.

Roedd cewri Cymrur saith-degaun cael eu cydnabod am eu sgiliau - ond elfen yr un mor bwysig oedd eu cryfder meddyliol.

Pan aned ei fab, Gwion, sydd â nam meddyliol, newidiodd bywyd Gwynn Davies yn llwyr.

Bu'n fodd effeithiol i lunio barn ac felly fframwaith meddyliol i ran gyntaf yr ugeinfed ganrif.

Arwyddocâd hyn yw fod gwaith mawr yn ein haros i dorri trwy'r rhwystrau meddyliol a chymdeithasol sy'n atal Cristionogion yn gyffredinol rhag mabwysiadu safbwynt sydd mor amlwg gyson â dysgeidiaeth Iesu Grist.

At hynny, mynegais y farn mai anodd oedd i odid neb aros yn ddi-Gymraeg yn y sir ddwyieithog hon ar ol byw yma am rai blynyddoedd - ac eithrio'r rhodresgar, y meddyliol-anneallus, neu'r diog: yn enwedig unrhyw un mewn swydd gyhoeddus.

Daeth Duw yn ddyn yn Iesu Grist nid er mwyn bodloni chwylfrydedd meddyliol y Cristionogion cynnar ond er mwyn cyflawni iachawdwriaeth y byd: 'Yr hwn erom ni ddynion ac er ein hiachawdwriaeth, A ddisgynnodd, a ymgnawdolwyd Ac a wnaed yn ddyn ...'

Yr oedd hi'n holl bresennol, ac yn rheoli bywyd meddyliol y cyfnod, er ei bod yn sicr fod elfennau o'r hen baganiaeth yn dal yn fyw iawn ymhlith y bobl gyffredin.

Ond hefyd mae angen dycnwch meddyliol.

Y mae nod Taith y Pererin yn gymharol syml: gellir symud y prif gymeriad o gyflwr darluniadol i un meddyliol e.e.

Fel ysgolhaig ni allai beidio â theimlo oddi wrth yr her i esbonio eu natur eithriadol, a phan ystyriwn ei gefndir meddyliol ef a'i gyfnod, nid syn ydyw ei gael yn taro ar yr esboniad arbennig a gynigiodd.

Ry'n ni'n perthyn i'r pentref ac ry'n ni'n atebol i'r pentref.' Pwy ddywedodd nad yw pobol â nam meddyliol yn cael eu derbyn gan gymdeithas?

Bu cryn bwysau arno i chwarae golff, ond mynnai mai gêm i bobl heb ei gwneud hi oedd honno, gêm lonydd barchus i athrawon a gweithwyr banc, pobl heb lawer o egni meddyliol heb sôn am gorfforol.

Yr oedd y tri dylanwad y cyfeiriwyd atynt - nerthoedd grymusaf yr oes - yn cyniwair yn drydanol trwy gylchoedd ysgolheigaidd a meddyliol Prifysgol Rhydychen tra oedd Davies yno.