Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddyliwch

meddyliwch

Paradwys pysgotwr fyddai afonydd clir a llynnau llawnion, a meddyliwch mor hapus fyddai ar ddarllenwr eang o gael byw mewn llyfrgell yn llawn o lyfrau o bob math.

Meddyliwch fod pentre fel Felin Fach, pentre gwledig sy'n llai na Tai Nant, yn rhedeg theatr lewyrchus.

Er enghraifft meddyliwch am ddau lawchwith ymlaen; wedi i un fod yn tyllu am sbel a'r llall yn troi'r ebill a rhoi dwr, maent yn penderfynu newid drosodd, wel gan fod y ddau yn llawchwith, mae'n rhaid newid lle ar y platform er mwyn i'r dyn sy'n taro fod yn ddethau, ond petai o'n medru iwsio'i law dde ni fuasai angen newid lle.

'Dwn i ddim pwy rôi i gi yno, heb sôn am blentyn." "Ia, 'ntê, a'r cyflogau'n fychan." "Bychan, i%a; meddyliwch chi rŵan am John yma, yn cael dim ond pymtheg swllt yn yr wythnos ar ôl gweithio blynyddoedd am ddim, a sefyll tu ôl i'r cownter o fore gwyn tan nos, a'r hen ddyn hwnnw'n cerdded o gwmpas y siop, efo'i hen lygada ym mhob man.

Meddyliwch am y defnydd a wnai pobol anghyfrifol yr oes a chorn siarad ar ochr y Stryd Fawr yn Stiniog!

"Ond hogiau bach, meddyliwch am y genethod yn gorfod rhannu llofft efo hi !

Ac am y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wel, meddyliwch am Mari Lewis yn ceisio byw gydag ef: o'i gymharu â'i dri aderyn ef yr oedd darllen Pererin Bunyan fel ymdopi â'r ABC.

Meddyliwch!'

Meddyliwch am yrru o Fachynlleth i Ddolgellau, a rhes o garafanau yn ymlusgo o'n blaenau, yn cadw'n glos at ei gilydd heb adael lle i neb basio.

Meddyliwch chi am flaenor yn cyhoeddi - Alwyn Thomas fydd yma'n pregethu'r Sul nesaf.

'Meddyliwch,' meddai Caridad, 'fflat fel hon am tua deuddeg peso y mis.

Ond meddyliwch am y gwaith!

Meddyliwch am ieuenctid yn sefyll o'ch blaen o ddeg o wahanol genhedloedd Ewrop.

Meddyliwch: dim fricasee, risotto, cyrri, risols twrci tan ddiwedd mis Mawrth.

Meddyliwch mewn difrif am wynebu ei waith cyhoeddedig cyntaf, sef rhybudd aruthrol (a rhuthrol) y Llythur ir Cymru Cariadus.

Meddyliwch am yr atom neu'r electron - dau o bileri gwyddoniaeth gyfoes.

Meddyliwch am siopwr; rhyw olwg lwyd, eiddil sydd arno, neu weinidog, rhyw olwg barchus yn ei wisg

Meddyliwch am y peth.

Meddyliwch am y rhaff hir wedi ei hel yn belen braidd yn flêr ac fe gewch ddarlun digon teg.

Meddyliwch am ddull o gyflwyno eich syniadau.

Meddyliwch am y llogau gewch chi ar ddau gan mil, digon i'ch cadw chi'n ŵr bonheddig weddill eich oes, digon i roi sicrwydd i'ch mam.