Daliai un o'r bechgyn lantern fechan uwch ei ben ac yn ei golau melyn medrai pawb weld y ddau filwr yn sefyll i'w hwynebu.
Mae'n ddrwg gen i' Sut medrai hi fynd yn ei blaen?
Fe aeth Richard Owen i weddio fel y medrai o dan y dwyfol deimlad, ac yn ei ddagrau.
Gofynnodd hwnnw sut y medrai Iesu Grist adael i'r Iddewon fod yn euog o'i hunan-laddiad megis.
Medrai'r Gymuned ddyrchafu teyrnasiad y Comisiynydd.
Medrai eu harogli wrth iddo orwedd yn ôl ar y glaswellt a chau ei lygaid yn dynn.
ond ar y llaw arall, gwyddai nad oedd dim byd arall y medrai ei wneud i'w achub ei hun.
Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.
A gan fod y tywydd yn fwll, roedd dau neu dri o bryfaid mawr Cumberland yn glanio ac yn hedfan i ffwrdd fel awyrennau yr RAF oddi ar y brechdanau - os medrai neb eu galw nhw'n hyn.
Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.
Cyn iddo agor ei lygaid, medrai Geraint glywed sŵn organ yn gymysg â lleisiau'n gwau drwy'i gilydd fel ieir.
Gwthiodd Geraint ei wyneb mor agos ag y medrai i'r agen, i gael rhyw syniad beth oedd i'w weld y tu allan, a lle'r oedden nhw.
Prin y medrai gredu fod Llefelys yn dweud y fath bethau twp.
Pe medrai, mynnai adfer poethder yr hen hafau i'w wythiennau brau.
Wedi clirio wyneb yr hen fynydd o'r cerrig rhydd roedd yn rhaid cael cynllun i dorri'r graig, ac hefyd rhyw fath o le gwastad fel y medrai'r dynion weithio'r cerrig.
Gwyddai fod ganddo rywbeth personol yn erbyn ei dad, a gwyddai y carai gael gwared ohono, ond medrai ei dad gadw'i dymer, yr hyn na fedrai Wiliam.
Prin y medrai weld y gongl bellaf gan fwg sigaret a stêm.
tra allan ar y maes yn ymladd - eu llestri bwyta, dillad eu gwely, pob peth, mewn gair - roedd yr olygfa hon yn fwy nag y medrai teimladau odid un ei dal am y tro cyntaf.
"'Drycha,' meddai, mor dawel ag y medrai, "'Drycha, pan fydd person yn gweud wrth rhywun y bydd e'n gwneud rhwbeth, all e ddim mynd nôl ar 'i air y funud ola.'
Dysgodd hefyd grap lled dda ar y Ffrangeg a'r Lladin, a medrai ddarllen y Beibl Hebraeg.
Ydi'r postciard yna yn dy boced ti'n barod?" "Ydi." Eisteddai William erbyn hyn ar y gadair freichiau a'i droed ar y ffender yn cau ei esgid, a rhôi ei ben i lawr cyn ised ag y medrai rhag i neb weld ei fod bron â chrio.
Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.
Hyd yma ni wyddent ychwaith y medrai genedigaeth freiniol arwain i boendod.
Medrai byddin o'r fath ddwyn y cyfan oddi arnynt - holl gynnyrch y misoedd.
Neidiodd ar ei draed a dechrau cyfarth mor uchel ag y medrai.
Trwy roi ysbrydion ar y llwyfan medrai Kitchener dorri trwy gyfyngiadau amser a gwneud i'r gorffennol gyd-fyw â'r presennol.
O'r uchder hwnnw medrai weld dros y wal arswydus honno, `Wal Berlin.' Am un mlynedd ar hugain roedd y wal hon, gyda'i thyrrau'n llawn o ddynion arfog, ei chŵn a'i chaeau'n llawn o ffrwydron cudd, wedi rhannu'r ddinas yn ddwy.
Aeth i'r mor yn ifanc iawn ar longau Porthmadog a go brin y medrai neb ddysgu dim iddo ef am fywyd y mor.
Nid oedd hyd yn oed America'n gwybod felly sut y medrai Waite sylweddoli ei fod yntau'n cael ei ddefnyddio fel gwerin gwyddbwyll?
Y tū tu mewn yn foel a chwerthinllyd o lân, dwi ddim yn meddwl y medrai fforddio menyw i lanhau.
Nid yn aml y medrai Rhian roi cyngor fel hyn i gleient : fel arfer mater i%w osgoi, os yn bosibl, os nad ei guddio, oedd y gwirionedd.
Eto, medrai weld y copaon yn wyn a thros begwn yr Wyddfa 'roedd llewyrch pinc gwanwyn cynnar yn y ffurfafen.