Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

medrus

medrus

Pan dyfodd yn llanc yr oedd arno eisiau cariad, ond yr oedd bechgyn y Llan yn fwy medrus o lawer nag ef yn hyn.

Telynor medrus a hyfforddwyd gan Delynores Maldwyn oedd ef.

Oherwydd cyflwr bregus y llongau a pheryglon y môr o gwmpas arfordir Gogledd Cymru, enillodd morwyr yr ardal barch ac enw da fel rhai medrus a meistrolgar wrth eu gwaith.

Yr oedd wrth ei fodd, wrth gwrs, ac archodd fi i gael gafael ar y 'saer medrus' ac ordro gwely newydd.

Arwydd oedd y bwa o rym milwrol y Rhufeiniaid neu efallai'r Parthiaid, eu prif elynion a medrus eithriadol gyda bwa a saeth.

Teimlem ein bod wedi cyflwyno'r ddwy ddawns mewn dull gwerinol oedd yn bur ac yn ddi-ffws ond eto yn chwaethus a medrus.

Roedd ef yn gerddor medrus dros ben.

Cafwyd ysgrifenwyr medrus i gyfrannu erthyglau, rhai fel Brynmor L. Davies, D. Myrddin Davies, T. Eurig Davies, R. Elfyn Hughes, A. O. H. Jarman, J. Gwyn Jones, Enid Parry, Jennie Thomas a J. O. Williams.

Byddai gan yr oruchwyliaeth nifer o raffwyr profiadol a medrus wrth law i archwilio wyneb y 'Ceiliog Mawr' a'r 'Negro' a mannau eraill lle byddai dyfnder mawr wedi i nifer o bonciau fynd yn 'un dyfn',John Morgan, Nant Peris, fyddai'n rhaffu'r clogwyn anferth a godai o Sinc Hafod Owen hyd at 'New York' .

Cylchgrawn ifanc ei naws ar gyfer CA 3 a darllenwyr medrus Cyfnod Alleddol 2.

Roedd Capten Lewis yn chwaraewr gwyddbwyll medrus anghyffredin, a byddai ef a Chapten fy nghatrawd i yn chwarae'i gilydd ambell dro.

Roedd yn enedigol o Sir Gaerfyrddin ac yn feddyg medrus a chymeradwy.

Haedda Ian Jones air o ganmoliaeth hefyd am ei redeg medrus ar yr asgell a'i barodrwydd i geisio sicrhau parhad symudiad.

Y mae ganddo bortreadau byrion medrus, a gogleisiol ambell dro, o'r bobl a gyfrannodd at y mudiad.

Nid oes yr un arall o'r penillion cynnar hyn ar fy nghof yn awr, ond cofiaf i Waldo ddweud fod ei chwaer yn fwy medrus nag ef yn eu llunio!

Siapiodd ei bysedd medrus sgwariau o ddefnydd a'u troi yn rhosynnau sidan fel rhai byw a phennau blodau lliwgar tra'n siarad am yr hobi cyfareddol hwn.

Trwy'n llwyddiant yn Mallorca a Llangollen mae wedi dod â chlod byd-eang inni ac i Eirlys Britton fel hyfforddwraig gyda'r weledigaeth a'r gallu i dynnu allan ohonon ni rhyw ysbryd cyntefig o'r gorffennol fel dawnswyr, a chyflwyno traddodiadau dawns Cymru mewn ffordd chwaethus a medrus i safon aruchel.

Bydd gwylwyr teledu gwybod yn dda am rym y dyfyniad uniongyrchol pan gaiff hwnnw un ai ei gyfeirio yn syth i'r camera gan gyflwynydd medrus fel David Attenborough neu ei fynegi trwy gyfrwng holwr profiadol.

Yn nwylo medrus Tony Jones, llwyddwyd i greu yr awyrgylch gynhyrfus briodol yn y rhan gyntaf ac i gael tensiwn rhwng y Ficer a gŵr y Tollau yn yr ail ran.

Oherwydd hynny roedd cael athrawon medrus ac enillgar i'r bobl ieuainc yn anhepgorol.

Yr oedd yn fedrus yn ei grefft, ond yn fwy medrus fyth yn y grefft o ddweud storiau celwyddog.

Er bod tîm da gan y Brifysgol, i'r myfyrwyr meddygol yr oedd pob chwaraewr medrus yn chwarae.

Yma y gorffwys gweddillion yr hen a'r ifanc o bob rhyw, meistr a gwas, y medrus a'r anfedrus.

Ond fel pe bai dan ofal rhyw bwpedwr medrus, llwyddodd i godi'r darian mewn pryd, er go brin y dysgwyliai Meic i'r darian ei amddiffyn.