Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mehefin

mehefin

Yn y blynyddoedd hynny byddai llawer yn mynd i'r traeth o ddiwedd Ebrill hyd ddechrau Mehefin i ddal llymriaid, a chawn innau godi gyda'r wawr i fynd efo 'Nhad - y fo yn palu efo fforch datws a minnau'n dal y llymriaid arian, gwylltion a'u rhoi yn y bwced.

Ac meddai yn y Gynhadledd fis Mehefin dan gysgod Dinas Brân (a lle well nag yn nghartref Eisteddfod y Byd): 'Bydded i nynni yma, o Gymry, fod yn gosmopolitaneiddrwyddiediciach nag o'r blaen, a bydded i ni dderbyn 'a few ..' a 'few..' .

Tywyn Mehefin 2 Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Meirionnydd; John Lloyd Jones, Cadeirydd Cymdeithas Cefn Gwlad; Graham Worley, cyn-ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Rhoddwyd gwasanaeth newyddion BBC Radio Wales ar brawf - a dangoswyd ei fod yn wasanaeth o'r radd flaenaf - pan ddaeth yr arweinwyr cenedlaethol i Gaerdydd yn ystod mis Mehefin ar gyfer Cyngor y Gweinidogion Ewropeaidd.

Y Trallwng Mehefin 16 Carwyn Jones, Aelod yn y Cynulliad; Roger Roberts, cyn-ymgeidydd y Democratiaid Rhyddfrydol; Dr John Davies yr hanesydd; Tom Jones, trefnydd Undeb y Gweithwyr yn y gogledd.

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

Fydd Sven-Goran Eriksson ddim yn dechrau'i swydd fel rheolwr newydd Lloegr tan fis Mehefin nesaf.

Cyhoeddir y papur hwn yn ystod Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan ym Mehefin 1999 - ychydig o fisoedd cyn diwedd y mileniwm - a'n dadl yw y bydd angen brwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol.

Mae hyn yn digwydd tua diwedd Mehefin.

Fel rhan o Gwrs Cymraeg Ysgol Haf y Dysgwyr cynhelir gig yn y Fic, Porthaethwy ar nos Wener, Mehefin 29.

Cafwyd gorchymyn i symud yr holl ferlod oddi ar y mynydd cyn canol Mehefin.

Roeddwn i'n darllen yn Y Cymro mai tywydd mis Mehefin eleni oedd y salaf ers talwm, ac roeddwn i'n falch o weld Gorffennaf yn cychwyn.

Addaswyd Mehefin 1998 ar gyfer y wefan newydd efo Culhwch...

Ystrad Rhondda Mehefin 9 Eluned Morgan, Aelod o Senedd Ewrop; Jill Evans, Aelod o Senedd Ewrop; Owen T Jones, gwyddonydd a dyn busnes.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae'r gemau hyn i gyd erbyn Mehefin 2 - tair gêm yr wythnos.

Fe fydd hi'n bosib hefyd i fynd i glinigau arbennig mewn ysbytai ar hyd y wlad ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Man Geni 5 Mehefin.

(a hithau'n fis Mehefin!) Gorfu iddynt newid pob cerpyn o ddillad yma.

Crwydrais dwyni Aberffraw ar bob adeg o'r flwyddyn a'u cael yn ddiddorol, yn enwedig ym mis Mehefin pan yw'r planhigion ar eu gorau.

TEITHIAU DIFYR (Teithiau Cerdded Cylch Hanes Dyffryn Ogwen): Cafwyd dwy daith hanes tu hwnt o ddifyr yn ystod Mai a Mehefin.

Mae'n debyg mai patrwm y tywydd yn ystod Mehefin a ddywed wrthym a ydym yn cael haf cynnar neu hwyr.

Parsel mwy, ac un anhylaw braidd yw'r cyfnod braf rhwng Mehefin a diwedd Awst.

Mae'r gog yn gadael cyn diwedd Mehefin - dim ond dodwy sydd raid iddi hi wneud, eraill sy'n magu.

Glaw ym Mai, sychder ym Mehefin.

Ymwelwyr Daeth dwy wraig o Rwsia i Benybont ym mis Mehefin.

Wrth ddechrau paratoi'r borderi ym mis Ebrill, bydd llawer o waith i'w gwblhau diwedd Mai a dechrau Mehefin.

Dydd Mawrth, Mehefin 6, 2000 It's only for kids really, meddai gwraig benwyn mewn cap polethin.

Gweler y Cofnod Swyddogol, 28 Mehefin 2000 a 4 Gorffennaf 2000.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Llundain Mehefin 30 Deian Hopkyn, hanesydd; Dr Tim Williams; Hywel Williams, aelod amlwg o'r Ceidwadwyr; Siân Lloyd, y ferch tywydd.

Mawrth glawog, Mehefin glawog hefyd.

Taranau Mehefin yn argoeli ydau bras.

Unawdydd Ym mis Mehefin Meinir Thomas o Parkfields Rd oedd yr unawdydd mewn cyngerdd a gynhaliwyd yn Eglwys Abaty Margam fel rhan o Wyl Port Talbot.

Mehefin gwlyb ar ôl Mai oer - bydd yr hydref yn baradwys i'r ffermwr.

Wythnos yn dechrau Dydd Sadwrn, Mehefin 2.

I nodi'r achlysur trefnwyd dau gig yn Y Cwps; Nos Wener Mai 31, Meic Stevens; Nos Sadwrn Mehefin 1, Geraint Lövgreen.

Yorkshire Post (David Denton), Mehefin 1999, adolygiad o GD Cerddorfa'r BBC/Hickox/Rubbra.

Llangefni Mehefin 23 Gareth Thomas, Aelod Seneddol; Yr Athro Derec Llwyd Morgan, Prifathro Prifysgol Cymru Aberystwyth; Bethan Evans (Gwanas), awdures; Y Cynghorydd Goronwy Parry.

Gobeithid cwblhau Adolygiadau Meirionnydd cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fis Mehefin.

Dylai'r cyrsiau fod wedi'u cwblhau erbyn mis Mehefin.

Gwell fyddai i'r garddwr yng Nghymru baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion hyn ym mis Mai ac aros nes dyfodiad Mehefin cyn eu plannu allan.

Daeth Dylan Phillips ac Arwel Jones i Gaernarfon i draddodi darlith rymus ym mis Mehefin, ac yn wir roedd ffigyrau Dylan a'i ddadansoddiad yn ddigon i godi'r felan ar unrhyw un.

Fe'i gwelais gyntaf un min nos braf ym mis Mehefin ar dir sych uwch clogwyni'r môr ym mhen dwyreiniol yr ynys.

Mae gan Mark Hughes broblem cyn gêm nesa Cymru yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd - yn erbyn Gwlad Pwyl ddechrau Mehefin.

Perfformiadau llawn asbri, wediu recordion syfrdanol. Yorkshire Post (David Denton), Mehefin 1999, adolygiad o GD Cerddorfar BBC/Hickox/Rubbra.

Yr oedd rhai ohonynt yn magu ac yn llawn llaeth a hithau hefyd yn ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin poeth; yr oeddem wedi eu dal ar gam amser.

Roedd Parti Ponty, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, ym mis Mehefin yn arwydd uchelgeisiol o hyn: dathliad diwrnod cyfan o'r iaith Gymraeg gyda miloedd o bobl yn ymweld â'r parc, a BBC Radio Cymru yn darlledu mwy na 14 awr o raglenni gan gynnwys grwpiau amlwg megis Eden a Gwacamoli.

Roedd yn naturiol, felly, i ni fod yn uchelgeisiol yn ein hymateb i'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1998: nid adroddiadau a dadleuon yn unig, ond hefyd rhaglenni dogfen, celfyddydol ac adloniant ysgafn.

Mae Mr Morgan wedi gofyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y sefyllfa ac ar ei holl opsiynau cyn iddo wneud penderfyniad terfynol erbyn diwedd mis Mehefin.

Mehefin 1999. Yr angen am frwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol. Llawlyfr Deddf Eiddo

Agorodd Mrs Eurwen Parry ei chartref i gynnal noson goffi, ac ar noson arbennig o braf ddiwedd Mehefin daeth tyrfa i Gae Bold i fwynhau loetran uwchben paned a sgwrs yn yr ardd.

Rhwng Mehefin 1980 a Mehefin 1982 collwyd 106,000 o swyddi.

Yn ystod sgwrs gydag Owain Gwilym ar ein rhaglen nos Lun (Mehefin 4) dywedodd Mei Emrys - prif leisydd Vanta - fod yr EP Pedair Stori Fer wedi gwerthu'n arbennig o dda hyd yma.