Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meibion

meibion

Fel yr oedd hi, bu ond y dim iddi fynd i gefn rhyw fws wrth weiddi ar ei meibion yn y drych yn hytrach nag edrych ar y ffordd.

Y meibion, Owen a Twm, sy'n gyfrwng i dynnu sylw at y broses hanesyddol hon.

Diwrnod mawr i ni pan oeddem yn yr ysgol oedd diwrnod te parti Plas Gwyn (ni allaf gofio y flwyddyn), ond yr arfer oedd te parti yn y pnawn a "concert" gyda'r nos, a byddai wythnosau o baratoi, canu ac adrodd a "drillio%, ac roedd meibion y sgweiar a rhai o'r gweision a'r morynion yn cymryd rhan yn y "concert" mawr yma.

Mae Mr Dafydd Evans, yr olaf o'r meibion, yn byw gyda'i ferch a'i fab-yng-nghyfraith yn Llanfairpwll ar hyn o bryd.

Ond yn brigo i'r wyneb yn Nolwyddelan, er gwaethaf popeth, yr oedd yr hen falchder ym meibion Owain Gwynedd o ddyddiau Iorwerth Drwyndwn.

MEIBION YR EIFL a MAJORETTES SIOE LLAN GOCH..

Ni ddaeth y sôn am dranc meibion yr arglwydd Rhys i'w clustiau.

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Defnyddiodd, a chamddefnyddiodd Llewellyn, rythmau siarad a ffurfiau gramadeg yr iaith Gymraeg yn ei Saesneg, ond y gwir amdani yw na ellir clywed yr iaith yn sŵn canu'r cor meibion, y newyddion Cymreig hwnnw sy'n gwneud y tro yn lle iaith, diwinyddiaeth ac yn rhy aml gerddoriaeth, ond sy'n dal i gyffrwrdd a'r galon.

Ac meddir ar glawr Cribau Eryri Rhiannon Davies Jones - sydd hithau'n ymdrin a'r drydedd ganrif ar ddeg : Mynegir ofn ac ansicrwydd gwreng a bonedd yn wyneb creulondeb yr amseroedd a mynych droeon Ffawd....Efallai y gwelir yma arwyddocad cyfoes yng nghymedroldeb meibion y Distain, yng ngweledigaeth y Mab Ystrwyth ac yn bennaf yn nelfrydiaeth yr Ymennydd Mawr.

Mi fyddaf i'n grwydryn fel meibion Gruffydd ap Rolant.

Ond nid dysgu sut i fagu meibion afradlon yw fy mhwrpas yma, er y bydd gennyf air ar fagu lloi maes o law.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Fel mae'n digwydd, mae'r Cor Meibion yr wyf yn aelod ohono, sef Cor Bro Glyndŵr (er mwyn y troednodwyr), yn canu gosodiad Bryceson Treharne o soned 'Dychwelyd' TH P-W; gosodiad teilwng, greda i, sydd yn llwyddo i danlinellu grym y soned ac i gyfleu dehongliad cerddorol o un JR ar ddiwedd ei ymdriniaeth.

Yr hyn a hawliai'r Blaid i Gymru mewn gwirionedd oedd sofraniaeth, sofraniaeth yn yr ystyr fod gan y genedl fel person moesol yr hawl i benderfynu a oedd hi am ryfela yn erbyn cenhedloedd a gwledydd eraill ai peidio, a bod ganddi yr hawl ar fywydau a chydwybodau ei meibion a'i merched yn y mater hwn.

Mae'n cofio am aberth y merched a fu'n gefn i holl ymdrechion eu g^wyr a'u meibion, y merched a fu'n dioddef y cyni yn dawel.

Ym marw sydyn ac annhymig Bedwyr Lewis Jones collodd Cymru un o'i meibion gorau ac un o'i chymeriadau mwyaf lliwgar.

Roedd dawnswyr Ystalyfera a Nantgarw yn sboncio'n osgeiddig, a Gynau Mawr Glyndwr, Meibion Llywarch, Cymerau ac eraill yn tanio o bob cyfeiriad.

Mae Cor Meibion y Rhos, Cor Meibion Ponciau yn dwyn i gof gampau Ben Evans, Edward Jones, John Owen Jones a John Glyn Williams.

I gefnogi hyn mae yn gobeithio y bydd Côr Meibion Treorci a drymwyr y Ffiwsilwyr Cymreig yn dod allan yma yn ystod yr Wyl a thrwy hynny dynnu sylw at Gymru a'r cwmniau Cymreig sydd yn y rhan hon o'r byd.

Yn y cylchgronau a oedd yn lledu a helaethu eu dylanwad yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf roedd ymadroddion fel 'Meibion Hengist' neu 'Blant Alis' am y Saeson wedi mynd yn ystrydebau, neu'n rhan o rethreg y cyfnod.

Yn ogystal â meibion a merched ffermydd, ymunodd nifer o weision hefyd, rhai ohonynt yn aelodau gwirioneddol werthfawr.

Tri yn Llys y Goron, Caernarfon, ar gyhuddiad yn ymwneyd â 'Meibion Glynd^wr'. Dau yn ddieuog, ond Siôn Aubrey Roberts yn cael ei garcharu am 12 mlynedd.

Y parch a delid i'r etiquette moethus - y patrwm ymddygiad - a'r cwrteisi bonheddig, nodweddiadol o'r dosbarth tirol, yw'r brif allwedd i ddeall agwedd meibion Gwedir tuag at eu cymdeithas gartref ac oddi cartref.

Digon anaml y byddai'r arglwyddes Senena ogylch y lle ac yr oedd hi braidd yn ddieithr i'w meibion.