Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meistri

meistri

Gwelais gerflun o'r llanc Dafydd fab Jesse Ban un o'r meistri, yn gryf a hardd o gorff, a dyna'r argraff a adawai Phil ar bawb a'i hadwaenai.

Mewn addysg, roedd lle i nodi gwelliannau, ond roedd y ddarpariaeth ysgolion o hyd yn ddiffygiol iawn yn yr ardal, er gwaethaf ymdrechion rhai o'r meistri haearn, a gwell darpariaeth o addoldai.

Ac i'r glowyr, oedd wedi brwydro mor hir ac mor ddygn yn erbyn eu meistri, yr oeddynt ar drothwy'r fuddugoliaeth fawr.

Nid oedd fawr o gariad at y meistri diwydiannol yn eu plith .

A chorff gwirfoddol wedi ei recriwtio o blith y meistri tir a'r clerigwyr oedd hwn.

Symons oedd y mwyaf chwyrn ei gondemniad ar y meistri haearn, gan roi disgrifiadau crafog o amodau gwael a ddaeth o orlenwi'r ardaloedd hynny â phobl, a'r diffyg cyfleusterau byw i'r gweithwyr yn sgil hynny:

Yn Huntsville, Alabama, y gwelodd hen stadau'r meistri cotwm, y grym gwleidyddol ac ariannol y tu cefn i'r gwrthryfel.

'Nhw yw'r Llywodraeth?' 'Ie, nhw yw ein meistri,' atebodd Jonathan yn lluddedig.

'Hil y Meistri?' gofynnodd Gethin yn chwilfrydig.

Ond fydda hi ddim yn addas i Hil y Meistri lafurio pan mae hiliau israddol, gyda'r galluoedd angenrheidiol, ar gael.'

Cytunai a Towson ynglyn a phwysigrwydd addysgu meistri llongau i ddefnyddio offer gwyddonol, megis y sextant a'r chronometer, i'w ddefnyddio offer gwyddonol, megis i'w galluogi i fordwyo ar hyd y Cylch Mawr, neu o leiaf i ddilyn y llwybr cyflymaf i gyrraedd pen eu taith.

'Nôl yn Ouromieh, daeth pwysigyn lleol ar y bws a rhoi darn o siocled yr un i ni 'fel iawndâl am yr holl flerwch.' Dyna'r unig arwydd o garedigrwydd a gawsom gan ein meistri.

Mae Tim Henman drwodd i rownd wyth olaf Cystadleuaeth Meistri Monte Carlo ar ôl curo Albert Costa o ddwy set i un.

Roedd torf sylweddol o bymtheng mil wedi troi i fewn i wylio'r gêm, ac unwaith eto, roedd yr arbenigwyr yn ddigon parod i farnu mai blaenwyr Castell Nedd fydde'r meistri.

Cawn ein harwain i gredu ei fod yn casa/ u'r meistri oherwydd ei natur filain, a'i bod hi'n fain arno'n ariannol am ei fod yn gwario'i arian ar gwrw, pŵls a cholomennod!

Yn rownd gynta Pencampwriaeth y Meistri sy'n dechrau yn Augusta yfory, bydd Ian Woosnam yn chwarae gyda Bob May a Sergio Garcia.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Os oedd y gweithwyr yn addoli yn 'nheml duw y gwin', meddai, y meistri haearn oedd ar fai.

Dyna paham bod lleiafrifoedd - ac fe olyga hynny wledydd bychain hefyd y dyddiau hyn - ar hyd y canrifoedd wedi bod yn ddrain yn ystlysau meistri'r byd.

Gyda'r gweithiwr cyffredin yr oedd cydymdeimlad Ieuan Gwynedd ('Nid ydym ond asgwrn o'ch asgwrn, a chnawd o'ch cnawd.' ) a chasâi'r meistri haearn - teuluoedd Harford, Bailey a Homfray - â chas cyflawn.

Mae'n glod i Arolygwyr Ei Mawrhydi, fel Cassie Davies a Margaret Jenkins, iddynt ddyblu eu gweithgarwch ar ôl gwrthodiad eu meistri.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.

Meistri yr agerlongau bach a hwyliai rhwng Lerpwl a phorthladdoedd y Fenai oedd Capten Evans a ChaptenTimothy, ac y mae'n bur debyg fod nifer o'r ymfudwyr yn gwneud y fordaith o'r Fenai i Lerpwl, y cam cyntaf o'u teithiau i wledydd pell, ar eu llongau nhw.

Ai buddugoliaeth fyddai, ai brwydr galed yn erbyn meistri didostur?

Pierre Fulke o Sweden enillodd Bencampwriaeth Golff Meistri Volvo yn Hereth.

Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.

Mae Tiger Woods yn mwynhau'r paratoadau gorau posib ar gyfer Pencampwriaeth Y Meistri yn Augusta fis nesa.

Gwylltiai hefyd pan gyhoeddid dedfryd megis 'Marwolaeth drwy ddamwain' neu 'Marwolaeth drwy ymyrraeth Duw' ar ddiwedd cwest i farwolaeth glo%wr, ac yntau'n gwybod o'r gorau mai esgeulustod y meistri oedd yn bennaf cyfrifol am y drychineb.