Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meistrolaeth

meistrolaeth

Nid yw meistrolaeth y plentyn ifanc ar gonfensiynau'r iaith lafar yn tyfu am fod rhywrai yn ei gymuned yn penderfynu rhoi hyfforddiant penodol iddo ar ddefnydd priodol o ansoddeiriau neu ffurfiau amherffaith y ferf.

Wrth son am 'led-glasuraeth' y ddeunawfed ganrif mae Saunders Lewis yn datgan yn feirniadol: Nid oedd ei threfn hi, ei synnwyr da a'i chytgordiad, yn effaith meistrolaeth eang ar gynnwrf profiadau, ond yn hytrach yn gynnyrch crebachu profiad a rhannau pwysig o gyflawnder bywyd.

Am gyfnod helaeth, dyna, yn wir, oedd y sefyllfa, ond yn ffodus, ni throsglwyddwyd meistrolaeth y cryse duon yn bwyntie, ac eithrio cic gosb gan John Poole.

Dangosir meistrolaeth y grwp wrth iddyn nhw asio yr holl arddulliau gwahanol sydd yn eu cerddoriaeth i greu campwaith sy'n gwbl unigryw.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dueddol o feddwl mai adrodd rhyw fymryn o linellau ydi'r hyn mae rapwyr yn ei wneud ond gwelir yma fod meistrolaeth o rhythm a geirfa yn hanfodol hefyd.

Rhwyg Rhoddai trefniadaeth fel hon gyfle i ddyn cryf ymarfer meistrolaeth tros y mudiad.