Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meithion

meithion

Ystrydeb erbyn hyn fyddai mynd i ormod o fanylder am ei gyrfa gynnar yn Boots a'i chyfnodau meithion yn ddi-waith yn ystod y chwedegau - degawd a dreuliodd fel actores ddi-nod a gwraig tū.

Nid oedd yr oriau meithion a dreuliasant yn dilyn fflam y gobaith am well byd yn y byd hwn, wedi'u dallu i'r fath raddau na fedrent adnabod dyn da wrth ei weld.

Ond yr hyn sy'n rhyfedd yw fod y broses yn digwydd flynyddoedd meithion yn ddiweddarach.

Hyd yn oed pan oedd ganddi dair merch, Kate, Pam a Polly, gadawai ef y cartref am wythnosau meithion o dro i dro gan daflu'r holl ofalon ar ysgwyddau Pamela.

Yn wir, dywed rhai o'r arbenigwyr y gall y gorchudd fod wedi ymddangos hyd ei hwyneb fwy nag unwaith yn ystod yr eonau meithion gan sychu ymaith i ymddangos drachefn.

Pan oeddwn yn fyfyriwr treuliwn oriau meithion yn gwylio Morgannwg yn chwarae ar Faes Sain Helen, Abertawe, a chan mai batiwrwicedwr digon trwsgl oeddwn i y pryd hwnnw arferwn ganolbwyntio fy sylw ar arddull David Evans a'i gymharu â wicedwyr dawnus eraill.