Cwm Pennant yn y Gwanwyn yw'r teitl, ac y mae'r afon i'w gwled yn rhedeg drwy'r cwm a melfed y mynyddoedd yn ei hamgylchynu.
Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.
Am ryw reswm meddyliodd yn sydyn am Ellis Puw, a theimlodd ar y funud ei fod yn nes at ei was yn ei glos ffustian a'i grys gwlân nag yr oedd at y boneddigion hyn yn chwyrli%o o'i gwmpas yn eu sidanau a'u melfed a'u lliwiau llachar, a'u dwndrio a'u chwerthin.