Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.
Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith.
Gallai celynen ger y tŷ hefyd ei warchod rhag mellt ac roedd hefyd yn cadw gwrachod, ysbrydion drwg a phob melltith draw.
Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.
Peth arall 'sy'n ffaith', fodd bynnag, yw eu bod ill dau'n argyhoeddedig mai melltith fu effeithiau gwleidyddol a diwylliannol y Chwyldro Ffrengig ar Ffrainc ac ar Ewrop.
Yr ysgub oedd un o'r gwrthrychau cyntaf i'w cludo i gartref newydd ac yr oedd ei gosod ger rhiniog y drws yn gyfrwng i rwystro mynediad i unrhyw un a oedd yn debyg o fwrw melltith ar y teulu.
Melltith y rhan fwyaf o eiriaduron yw y gellir wrth fynd trwyddyn nhw weld bylchau ac weithiau gall hynny ein dallu i'w rhinweddau.