Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

melys

melys

Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.

Ac yn peri i minnau feddwl; nid yn unig i lawer iawn mwy na Saith Seithug Mr Hague fod yn gwyntor mygau melys ond i ryfeddu fod yr effaith yn para cyhyd.

Yn sicr mi fyddwn ni yn chwarae caneuon Bysedd Melys yn aml iawn ar Gang Bangor gan eu bod yn meddu ar swn aeddfed iawn a chaneuon syn gofiadwy.

Eisoes mae dau sesiwn wedi eu cynnal gyda Melys, Zabrinsky, Evans, Tystion, Cint, Something Personal, Angel a mwy a mi fydd dwy noson arall yn y gyfres yn cael eu cynnal cyn hir.

Yn ystod y dydd, denir y gloynnod at y neithdar melys ynghudd yn ei ysbardun hirgul.

O gymharu ag angerdd y gân gynta mae'r ail gân, syn Saesneg, yn gyferbyniad llwyr ac yn dangos bod Melys yn gallu addasu steil eu caneuon.

Efallai mai rhyw flas gwrthgyferbyniol, tebyg i hwnnw sy'n ddolen gysylltiol rhwng melys a chwerw neu rwng gwir a gau, sy'n eu clymu ynghyd a'u dwyn yn unsang o flaen llygad fy meddwl.

'Mae gen i atgofion melys o'r dyddiau difyr, da hynny,' meddai.

Mwyn a melys min Malen, Môr o jam yw Meri Jane!

mae'r brif gân yn gwbl nodweddiadol o gerddoriaeth Melys ond hyd yn oed yn fwy electronig na rhai ou caneuon blaenorol.

Llosgodd y pwdin, crimpiodd y cig, ac ni wyddai neb ar y ddaear sut i wneud ymenyn melys na thatws yn y popty.

Ambell dro caem ychydig o gawl tatws melys, gyda dail y tatws yn gymysg ynddo, a byddai'n ddiwrnod mawr pan dderbyniem ddyrnaid o datws neu ddiferyn o laeth neu jam neu siwgr.

Nid oes ynddi'r un gair o newyddion drwg, na, dim un llinell, dim un sillaf, dim un iod: ond newyddion da, melys: newyddion da i galon y gwaethaf o bechaduriaid...

A dod â lliw i undonedd bywyd wnaeth Iesu on'dife, a'r disgyblion, a ffordd rhai a'u gwelodd nhw wedi'r atgyfodiad o ddweud fod colled arnyn nhw oedd dweud, 'Llawn o win melys ydynt'.

Bysedd Melys ydy enw grwp newydd syn dod o Fôn - ac yn ôl yr aelodau does yna ddim arwyddocâd i ystyr yr enw.

Roedd y gwin yn gynnes a melys.

Bydd Melys yn rhyddhau eu sengl Gymraeg nesaf, Un Darllenwr Lwcus ar y 6ed o fis nesaf.

Ond yr hyn a ysgrifennodd y disgybl ifanc, William Williams, oedd, 'I but cakes.' 'Dagrau melys iawn' chwedl yr Williams arall hwnnw.

Y rhedyn melys a ddeuai ag atgofiom fil am ddyddiau diofal ieuenctid.

Enw sengl newydd y grwp Melys o Fetws y Coed ydi Un Darllenwr Lwcus.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.

Ni allai holl bersawrau'r Dwyrain a holl gyffuriau a balmau melys y goedwig ladd yr aroglau a ddringai o bryd i'w gilydd dros ei min pan gusanent.

Sbot ddy enwogion, melys gwrdd â hen gyfeillion eto eto eto, ai fo fydd nesa, pwy 'sa'n meddwl y basan ni'n cwarfod eto fel hyn mor fuan.