Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

menter

menter

* Ysgrifennwch erthygl ar gyfer cylchlythyr yr ysgol, y wasg leol neu gyngor hyfforddiant a menter/cyhoeddiad PAB

Yn achos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r fytholeg gynhaliol yn neilltuol o gref gan bod blynyddoedd gwawrddydd y mudiad yn cydddigwydd â ffrwydriad diwylliant ieuenctid y chwedegau, cyfnod euraid yng nghof yr aelodau cynnar sy'n cysylltu genedigaeth y Gymdeithas â rhyddid a menter eu hieuenctid eu hunain ond sydd bellach wedi ymgolli ym mharchusrwydd canol oed.

caiff addysg busnes a rheolaeth i siaradwyr cymraeg hwb sylweddol y flwyddyn nesaf pan agorir canolfan newydd trwy gydweithrediad menter a busnes a phrifysgol cymru.

Felly, er mwyn ceisio gwneud iawn am y diffyg hwn, hoffwn ddod â'r cyflwyniad i fwcwl drwy gyfeirio at rai prosiectau sydd ar waith neu ar y gweill gennym fel Menter yng Nghwm Gwendraeth.

Gan fod Waunfawr, pentref genedigol Gwynn Davies, eisoes wedi bod yn gefn mawr i'r Gymdeithas, awgrymwyd y byddai'r pentref yn le addas ar gyfer menter a fyddai'n rhoi cyfle i bobol â nam meddyliol i ddatblygu fel unigolion ac a fyddai, hefyd, o fudd i'r pentref.

rhaid i ni annog menter, ehangu gorwelion pobl a gwell a safonau rheoli yn gyffredinol.

Menter Nedd Port Talbot -Noson yng nghwmni Geraint Lovegreen a'r Enw Da yn y Clwb Rygbi am 8 o'r gloch.

bydd yn fenter ar y cyd rhwng menter a busnes a nifer o golegau a chyflogwyr, " meddai cyfarwyddwr menter a busnes, hywel evans.

Gan gadw anghenion economi lwyddiannus mewn cof, gobaith BBC Cymru yw datblygu menter newydd sbon yn 2000 - Ysgol Busnesau Bach BBC Cymru - y bwriedir iddi ymdrin â gofynion hyfforddi Busnesau Bach yng Nghymru.

l) Cydweithio â Menter a Busnes ar y cynllun Chwylbro er mwyn ei addasu i'w ddefnyddio gan ganghennau CYD a dysgwyr yn gyffredinol.

Menter newydd a chyffrous iawn yw rhoi lle canolog i'r Gymraeg ym mywyd llywodraeth Cymru a dylai hynny fod ar y sail bod y Gymraeg a'r Saesneg yr un mor ddilys â'i gilydd o ran eu statws annibynnol.

(c) Ardaloedd Menter Arfaethedig yn Nwyfor - Y Trefniadau Cynllunio CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Rheolwr BBC Cymru, "Rydym yn falch i fod yn gysylltiedig â ffilm unigryw oedd yn llawn menter greadigol, ieithyddol a thechnegol."

Ceir darllediadau byw hefyd o drafodaethau allweddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar deledu BBC Cymru, ac mae menter ar y cyd ag S4C ar ei sianel ddigidol, S4C2, yn darparu darllediadau cynhwysfawr, yn Gymraeg a Saesneg.

Wrth i'r 20fed ganrif ddod i'w therfyn darlledodd BBC Radio Cymru gyfres hanes llafar 16 rhan Hyd Ein Hoes, sef menter unigryw a ail-greodd brofiadaur can mlynedd diwethaf drwy leisiaur bobl a fun byw drwyddynt.

CYHOEDDI PAPURAU NEWYDD YNG NGHYMRU gan Beti Jones: Menter gwbl wirfoddol yw pob papur bro, ac amrywiant dipyn o ran maint, arddull a fformat.

Menter blaengar a phwysig yw'r strategaeth hon, a adwaenir wrth y term All Wales Strategy (AWS).

gobeithiaf y bydd hwn yn helpu siaradwyr cymraeg i fynd i'r afael a'r her hon ychwanegodd y bydd y swyddfa gymreig yn annog colegau a chyflogwyr i gydweithio a menter a busnes.

Crëwyd cryn argraff gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Chwedlau Caergaint ac a enwebwyd am Oscar amdano gyda menter uchelgeisiol arall wedii hanimeiddio - ffilm o glasur Herman Melville, Moby Dick, gyda Rod Steiger fel Capten Ahab yn y fersiwn Saesneg.

Menter fasnachol yw'r wibdaith, wedi ei threfnu gan Ddigwyddiadau egni, rhan o S4C Rhyngwladol.

Gwelwyd yn ystod dyddiau cynnar Menter Cwm Gwendraeth fod unrhyw sôn am achub iaith yn ymarfer cwbl ofer oni chyplysir yr iaith â'r gymdeithas sydd yn ei chynnal.

Crëwyd cryn argraff gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Chwedlau Caergaint ac a enwebwyd am Oscar amdano gyda menter uchelgeisiol arall wedi'i hanimeiddio - ffilm o glasur Herman Melville, Moby Dick, gyda Rod Steiger fel Capten Ahab yn y fersiwn Saesneg.

Y mae eisiau cydnabod mai menter ar y cyd yw addysg plentyn meithrin ac y gall ansawdd y berthynas sy'n cael ei greu rhwng rhieni a'r athrawon/gweinyddesau meithrin yn yr ysgol fod yn sylfaen i bartneriaeth bwysig ac yn fantais i'r ysgol, y rhieni, ac yn bwysicaf oll, i'r plentyn.

(Gweler y Rhagarweiniad am y manylion.) Rhan o'ch rol chi fel cydgysylltwr yw ysgogi arbrofi, annog a chefnogi menter mewn dysgu.

Llwyddwyd i dderbyn addewid o £100,000 o arian Loteri ond er bod cadeirydd Menter Preseli, y Cynghorydd Lynn Davies, wedi cydnabod ar y rhaglen fod £50,000 eisoes wedi ei wario does dim arian Loteri wedi cyrraedd hyd yn hyn.

ng) Cynrychioli CYD ar bwyllgorau cyrff a mudiadau eraill yr ardal gan gynnwys Pwyllgor y Dysgwyr a'r Di-Gymraeg, Menter Cwm Gwendraeth, Pwyllgor Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â mynychu cyfarfod o bwyllgor Sgowtiaid Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth am CYD.

Gwendid o fewn pob menter wirfoddol yw y gall y diddordeb bylu ar ol y brwdfrydedd cyntaf, a chlywid y wireb honh yn aml yn nyddiau sefydlu'rpapurau bro cyntaf.

Wedir cyfan, onid dyna yw hanfod busnes a menter - eich bod yn bywn fras ar eich llwyddiant a llyfu clwyfau unrhyw fethiant.

Dangoswyd y byddai angen £40m ac mai'r unig obaith oedd i'r Cyngor ffurfio Menter Cyllid Preifat.

dywedodd cadeirydd menter a busnes, emrys evans, ei fod yn argyhoeddedig y gall prosiect cyntaf â ganolfan lenwi bwlch mawr ym mywyd addysgol ac economaidd cymru.

Ond mae'r menter a'r weledigaeth 'da nhw nawr i chwarae rygbi cyflawn a maen nhw'n gallu ymosod a sgori o unrhyw le ar y cae.

Er enghraifft, drwy gyfrwng ein menter Cynllunio mewn Partneriaeth, mae BBC Cymru wedi gwneud arbedion sylweddol mewn costau stiwdio.

Un o dasgau cyntaf Menter Cwm Gwendraeth pan lawnsiwyd hi dros flwyddyn yn ôl fel cynllun peilot i hybu'r laith yn y gymuned oedd meddwl am ffyrdd i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl Cwm Gwendraeth ynglŷn â phwysigrwydd a gwerth parhad y Gymraeg fel elfen annatod o wead a chymeriad yr ardal.