Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mentro

mentro

A'r slasen fach wen 'na i fod yn aros amdana i, 'di mentro i'r Hen Arcêd am unwaith.

Felly, yr oedd Ioan Evans yn mynd a'i deulu i'r capel ar hyd yr haf am flynyddoedd gan wneud rhyw dair lîg a croesi dwy afon, ac yn y gwanwyn pan fyddai'r eira yn dadmar ar y mynyddoedd, 'roedd yr afonydd yn codi, a chawsom fwy nag un dychryn wrth ei mentro, gan fod yn dŵr yn dod i fewn i'r cerbyd.

Ffolineb fyddai mentro defnyddio criw Iddewig â'r holl Balestiniaid yn y strydoedd; felly, dyna benderfynu cyflogi gŵr camera Palesteinaidd.

Felly, a yw'r criw yn mentro colli ffilmiau na ellir eu hadfer trwy eu rhoi ar drugaredd yr adnoddau sy'n bodoli neu a ydynt yn dewis bod yn ofalus trwy ddod â'r holl ffilm adref heb ei datblygu?

Ond da chi, peidiwch â mentro i defnyddio eu meddyginiaethau gan fod amryw ohonynt yn berygl ar y naw i ddyn ac anifail!

Paid â'i mentro hi.

Dim ond dau odolyn sy'n cael mentro'n agos ato, sef CARYS HUW ac un actor wythnosol o blith JEREMY COCKRAM, JUDITH HUMPHREYS, GWEN LASARUS a DANNY GREHAN.

Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.' ' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg.

"Ddim hyd yma, neu fuaswn i byth wedi mentro ailadrodd yr holl stori wrthych chi heno." "'Rydym yn ffodus ein bod ni wedi gofalu am gaban," meddai fy ngwraig wrth i'r llong symud oddi wrth y cei yn Dover am un o'r gloch y bore.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Cyn mentro i ateb y cwestiwn yn fanwl, efallai y dylem ei osod yn ei gyd-destun.

Teimlai'n hyderus yng nghylch y twnnel, heb feddwl y byddai llawer o berygl mewn mentro drwyddo.

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

Ilicin yw'r gwenwyn sydd yn amddiffyn hâd y goeden gelyn, cemegyn sydd yn gallu achosi llesgedd, cyfog a dolur rhydd yn y sawl sy'n mentro ei fwyta.

Nid oedd y bardd wedi mentro dweud ei alar yn ei enw'i hunan!

Wrth edrych yn ôl byddaf yn aml yn rhyfeddu at fy hyfdra a'm digywilydd-dra'n mentro mynd allan i annerch ar wleidyddiaeth.

Go anaml y bydd chwaraewyr da yn mentro â'r Frenhines i ganol berw'r frwydr yn gynnar yn y gêm.

Mae Ben, Mererid a Karen yn mynd ar ôl newyddion ymhob rhan o Gymru ac ambell waith bydd y tîm yn mentro dramor.

Clywai, er gwaethaf yr eginyn o hunanhyder a oedd yn bygwth blaguro'n betrus ynddo, yr angen am rywun yn gefn iddo yn ei ddiflastod ac i herio'r dagrau o rwystredigaeth a lletchwithdod rhag mentro ymhellach na'i lygaid.

Heno 'roedd hi nid yn unig wedi colli decpunt, a hithe, am unwaith, wedi mentro prynu chwe llyfr, ond 'roedd he hefyd wedi colli gobaith ennill y belen eira a oedd erbyn hyn wedi cyrraedd hanner canpunt.

'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.

A go brin y byddai dau esgob o Gâl wedi mentro mor bell i'r gogledd ar yr adeg honno, er yn wir fod llawer llan yn y gogledd wedi cael ei chyflwyno i Garmon, gan gynnwys Llanarmon yn Iâl sydd heb fod nepell o Faes Garmon.

Ar y naill law mae'n gofyn hyder a mentro buan; ar y llaw arall mae'n gofyn pwyll a chyfrwystra arbennig wrth gloriannu'r camau priodol i'w dilyn.

Nid wyf yn amau na chafodd Waldo'r math hwn o brofiad, a'i gael "in the silence of the night and in rare lonley moments", oblegid mae ganddo aml gyfeiriad at y ser yn rhwyllau yn llen y nos, ond gellir mentro dweud fod ei brofiad ef yn fwy cymhleth, yn fwy angerddol o lawer nag eiddo HG Wells.

Bydd yr hyder a ddaw yn sgîl y credu hwnnw yn rhoi hyder iddo arbrofi a mentro gyda iaith.

Roedd cledd yn llaw y tri milwr wrth iddyn nhw adael diogelwch y coed a mentro i'r tir agored.

Ond cyn mentro i'r byd actio roedd yn un o sêr mwya' disglair y byd adloniant ysgafn yng Ngorllewin Morgannwg ac yn arfer canu gyda neb llai na Bonnie Tyler a aeth ymlaen i gael hits enfawr gyda 'Lost in France' a 'Total Eclipse of The Heart'.

Rhaid i mi, bob amser, ofalu bod aerwy neu raff am wddf y fuwch cyn mentro i ddal ei phen.

Nid oedd yn hoffi teulu'r Cwmwd yn siwr, ond tybed a oedd mor ddieflig â mentro i'w cartref i'w chwalu, a gwybod bod Dad yn yr ysbyty.

Felly, dyma ni'n mentro o'r diwedd i mewn i un o'r adeiladau llwm, llwyd yr olwg, a chael yn wir fod yno siop - neu siop siafins o siop, i fod yn fanwl gywir.

Bu cynnydd yn y rhai yn cystadlu ar y Noson Lawen gyda saith chwmni yn mentro i'r maes.

Yn sicr, doethineb elfennol ar ran y neb a fynnai ei mentro hi a fyddai gwisgo helm i ddiogelu ei benwendid.

Ac yn ei gyfrol y mae hyd yn oed wedi mentro dweud rhywbeth am y Gymru ddiwydiannol.

Roedd y tri mis o gynllwynio a mentro y tu ôl iddyn nhw.

Felly rhaid adnabod y ddau lwyn yma yn iawn cyn mentro i'r gwyllt yn yr America.

Roedd y ddau am gael ei gweld fel gwladweinwyr gofalus oedd hefyd yn fodlon mentro.

Mae hynny mor wir, Begw ac ydi fod llawer i hen law yn llaw flewog' Ac meddai fy nhaid, er na ddwedodd Begw ei hun fawr ddim, 'fuaswn i ddim yn mentro rhoi fy mys yn ei cheg hi'.

Darllenwn eto hanes y gwragedd ar fore'r Atgyfodiad yn mentro allan i wersyll y gelyn, a darganfod fod y gwersyll yn wag.

Ond mae merch o'r ynys, Mared Lewis Roberts, wedi mentro draw yno gyda'i gūr, Dafydd, (Monwynsyn arall) i fyw am rai misoedd.

Doedden nhw erioed wedi mentro i leoedd pell, - heb drydan a sŵn cerbydau modur.

Trwy wneud hyn, wrth gwrs, roeddynt yn mentro i fyd o eira a rhewfryniau, ac yn nyddiaduron teithwyr y cyfnod cawn lu o gyfeiriadau at y cyffro ofnadwy yn eu mysg wrth edrych allan a gweld eu llongau yng nghanol cylch oi rewfryniau uchel.

Un o brif gwynion gweithwyr y gwasanaethau achub yw eu bod nhw'n rhy aml o lawer yn gorfod mentro eu bywydau am fod rhywun arall wedi bod yn ddiofal.

Ond mater arall yw mentro i Dyffryn Ogwen ym mis Tachwedd bryd hynny, rydych angen gwres canolog effeithiol a thrwch o ddeunydd insiwleiddio o'ch cwmpas rhwng y gragen fewnol a'r gragen allanol.

Mentro wnaeth y pedwar i'r gwersyll, a chael fod y gwersyll yn wag, gan weld fod holl bryder a dioddefaint y ddinas yn ddi-alw-amdano.

Os dywedaf ar y dechrau fel hyn nad oes gennyf ddim gwybodaeth dechnegol am gerddoriaeth, fe ofynnir ar unwaith paham yr wyf yn mentro sgrifennu amdani ynteu?

Roedd Mathew ar fin mentro i lawr a sleifio allan pan ddaeth cnoc ar y drws.

Ond mentro mae'r bobl - y Leaf Peepers yn eu ceir, yn dilyn y lliwiau gogoneddus.

Wedi iddo gymryd gwrogaeth gŵyr Cernyw ac ymagweddu'n bennaeth llys, mae gosgordd Arthur yn mentro ei adael.

Ond wedyn, buasai Ynot a'i gyfeillion yn siŵr o feddwl am ryw ffordd arall, rhyw adeilad arall i'w godi, a gellid mentro y byddai'n adeilad a apeliai i rai adrannau o'r bobl.