Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mentrodd

mentrodd

'Mae gynnon ni drwyddedi,' mentrodd Alun, ei geg yn sych gan ofn.

Mentrodd un sylw arall.

Mentrodd i fyd rhyddiaith â llygaid agored a hynny'n gwbl ymwybodol.

Mentrodd edrych o gwmpas y dosbarth.

Mentrodd ambell un ofyn iddi yn chwareus wrth fynd heibio, "Morfudd, Morfudd, beth wyt ti'n ei wneud â'r holl wlân yna?" Chwerthin yn amwys fyddai hi wedyn, heb godi'i phen a heb roi'r gorau i drotian, ond sylwai rhai ar wawr o dristwch yn ei llygaid.

'Heb gael amsar i ddarllan y sgript mae'n siŵr', a mentrodd Manon ymhellach: 'Dynas brysur ydi hi.'

Mentrodd ambell wylan atom i fegera, crawcian o'r uchelderau wnai'r gigfran.

'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.

Nid oedd gan y llawfeddyg a weithiai yno unrhyw gymwysterau arbennig ynglŷn â llawfeddygaeth yr abdomen ond mentrodd arni ac fe ddarganfu delpyn caled ym mhancreas y claf.

Mentrodd Heledd bwyso i lawr yn nes at y cūn.

'Mr Richards, syr?' mentrodd Dan.

Darllenod gymaint am Baris nes mynd yn awdurdod dibrofiad ar y ddinas a'i rhyfeddodau, a mentrodd fynegi barn yn y dosbarth nos a argyhoeddodd bawb ei fod yn hen gyfarwydd a Ffrainc.

Roedd un o hogiau Caernarfon wedi mynd mor gyfeillgar ac un o'r merched yma fel y mentrodd roi ei fraich amdani.

Toc, mentrodd agor cil ei llygaid i edrych yn llechwraidd o'i hamgylch, gan ddisgwyl gweld rhywun yn camu o'r tywyllwch.

Ar gais 'caredigion Y Llenor' y mentrodd Gruffydd ar y gorchwyl.

Mentrodd ddweud: 'Diolch yn fawr, Sylvia.

Mentrodd Ysgol y Babanod roi Cyngerdd yn Neuadd y Dref.

Felly ma' hi 'di mynd yno 'rioed.' Yna, mentrodd flewyn o wamalrwydd.

Mentrodd Joseff Bellis i fyd madrigalau ac enillodd ei gor sawl tro yn y Genedlaethol.

Wedi teithio am ysbaid gyda'r ddau yn syllu'n ddiymateb drwy'r ffenest ar y wlad yn gwibio heibio, mentrodd Merêd dorri 'r ias.

'Welaist ti Jonathan?' mentrodd Non ofyn.

Gwyddai ei fod yn Ffrainc yn rhywle, a mentrodd ofyn eto, Yn lle 'rydan ni?